Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cynhadledd Chwarae Ryngwladol 2011
Cynhadledd Chwarae Ryngwladol 2011 PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 03 Mai 2011 09:22

Ym mis Gorffennaf fe'ch gwahoddir i ddod i Gynhadledd Chwarae Ryngwladol 2011 sy'n dathlu 50 mlynedd o'r IPA.

Rhwng 4 a 7 Gorffennaf bydd llu o siaradwyr o bob rhan o'r byd yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i drafod gwahanol agweddau ar chwarae ac yn dangos sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu mewn diwylliannau eraill.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Dr Brian Sutton Smith (UDA)
    Ar chwarae a goroesi emosiynol
  • Bob Hughes (DU)
    Ar waith chwarae. Awdur Evolutionary Playwork and Reflective Analytic Practice
  • Wendy Russell a Stuart Lester (DU)
    Ar bwysigrwydd chwarae i bob plentyn
    Awduron, Children's Right to Play (IPA)
  • Dr Sudeshna Chatterjee Phd (India)
    Cynllunydd trefol sy'n ffocysu ar blant ac yn gweithio yn India
  • Yr Athro Marc Bekoff (UDA)
    Ar gyfraniad chwarae tuag at oroesi a ffynnu
  • Yr Athro Lothar Krappmann (Yr Almaen)
    Cymdeithasegydd a Datblygiad Plant – Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Mae hefyd amryw i ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal dros y pythefnos hwn.

Gwersyll Gwaith Chwarae IPA 1-3 Gorffennaf 2011
Yn ogystal â chynhadledd Caerdydd, ymunwch â gwersyll dwy noson ar fferm yn harddwch canolbarth Cymru.

Cyfle i gael profiad o natur gwaith chwarae yng Nghymru, i faeddu'ch dwylo, i rannu damcaniaethau ac i freuddwydio breuddwydion o gwmpas y tân.

Mae llefydd yn gyfyngedig – archebwch eich lle wrth gofrestru am y gynhadledd.

Mwy o ddathlu yn ystod wythnos y gynhadledd:

Twmpath nos Lun (4 Gorffennaf) – croeso traddodiadol Gymreig gyda cherddoriaeth fyw, dawnsio a bwyd

Parti Pen-blwydd 50 – nos Fercher (6 Gorffennaf)

Gwnewch sŵn i chwarae – dydd Mercher (6 Gorffennaf)
digwyddiad awyr agored i blant a chynadleddwyr fwynhau prynhawn o sŵn dibendraw yn ystod y gynhadledd!

Os ydych am fod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd 50 yr IPA archebwch eich lle cyn gynted â phosibl, fan hyn.

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.