Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Ronald McDonald yn aros er gwaethaf gordewdra cynyddol ymhlith plant yn UDA
Ronald McDonald yn aros er gwaethaf gordewdra cynyddol ymhlith plant yn UDA PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
THURSDAY, 26 Mai 2011 15:44

Er gwaethaf derbyn cais gan 550 o weithwyr gofal iechyd i roi'r gorau i dargedu plant yn ei ymgyrchoedd marchnata bwydydd cyflym, dywedodd Jim Skinner, Prif Weithredwr McDonald's "Dyw Ronald McDonald ddim yn mynd i unman."

 

Mae grŵp o leianod (Chwiorydd St Francis o Philadelphia mewn partneriaeth gyda Corporate Accountability International) wedi bod ar flaen y gad gyda chynnig fyddai'n asesu ymatebion polisi McDonald's i bryderon y cyhoedd ynghylch y cysylltiad rhwng bwyta bwydydd cyflym a gordewdra mewn plant a chanlyniadau hynny ar iechyd.

Gwrthododd bwrdd cyfarwyddwyr McDonald's y cynnig i gael gwared ar Ronald. Roedden nhw'n dadlau fod y cwmni'n cynnig amrywiaeth a gwybodaeth maethol a'i fod yn cyfeirio ei negeseuon at blant mewn ffordd gyfrifol. Ychwanegodd y bwrdd mai rhan o'r broses ddemocrataidd yw cael dewis, rhywbeth nad ydyn nhw am beidio â'i gynnig i'w cwsmeriaid.

Dywedodd Dr. Don Zeigler, Cyfarwyddwr Atal a Hybu Iechyd yn yr American Medical Association ac Dirprwy Athro mewn Meddygaeth Ataliol ym Mhrifysgol Rush, ei fod yn bryderus fel person iechyd proffesiynol gan fod y gwasanaethau a'r cyfleusterau gofal iechyd dan eu sang gyda chleifion sy'n dioddef o gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u harferion bwyta.

Mae'n dyfynnu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gan ddweud fod y byd yn wynebu trychineb araf o glefydau anhrosglwyddadwy sy'n gysylltiedig â diet, yn cynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes a gordewdra. Mae'n cysylltu'r clefydau a'r cyflyrau hyn gyda hyrwyddo a bwyta siwgrau, sodiwm a brasterau – cynhwysion sydd i'w cael yn helaeth mewn bwydydd cyflym.

Mae'n galw'r epidemig hwn yn drasig gan ei fod bron yn gwbl ataliadwy. Mae'n cyhuddo technegau marchnata McDonald's o chwarae rhan fawr yn creu'r broblem hon. Yn ôl WHO, ychwanegodd Dr. Zeigler, mae'n hanfodol cael polisïau i leihau marchnata bwydydd cyflym a bwyd sothach i blant os ydyn ni wir eisiau gwrthdroi'r duedd hon (gordewdra).

Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi'n anghywir i ddal i honni mai diffyg cyfrifoldeb rhieni sydd wrth wraidd y problemau pan mae cannoedd ar filoedd o ddoleri'n cael eu gwario ar farchnata bwydydd cyflym yn uniongyrchol tuag at blant – mae strategaethau marchnata o'r fath yn amharu ar ac yn tanseilio ymdrechion rhieni i hybu bwyta iach.

Meddai Kelle Louaillier, Cyfarwyddwr Gweithredol Accountability International: "Mae McDonald's wedi gadael elfen hanfodol o'i adroddiadau enillion blynyddol allan o'r llyfrau ers cyfnod maith – sef y costau cynyddol i iechyd ein plant ac i'r system gofal iechyd yn sgil ei arferion busnes. Gan ddechrau gyda'r penderfyniad cofiadwy hwn, mae'n amser i'r gorfforaeth roi'r gorau i wyngalchu costau ei farchnata a'i arferion bwyta cyffredinol i'r cyfranddalwyr a'r cyhoedd."

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.