Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Bwyd sothach Prydain yn costio mwy i'r GIG na sigaréts neu alcohol
Bwyd sothach Prydain yn costio mwy i'r GIG na sigaréts neu alcohol PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
THURSDAY, 26 Mai 2011 15:55

Mae arferion bwyta afiach Prydain yn costio mwy i'r GIG na sigaréts neu alcohol yn ôl canfyddiadau astudiaeth newydd.

 

Mae clefydau cynyddol sy'n cael eu hachosi gan ddiet gwael a ffyrdd o fyw diog yn costio dros £8bn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd – tua dwywaith cymaint â'r swm sy'n cael ei wario ar afiechyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu neu alcohol.

Dywed y papur, gan arbenigwyr o Brifysgol Rhydychen a Chanolfan Cydweithio dros Atal Gordewdra Sefydliad Iechyd y Byd, fod gordewdra a diet gwael bellach yn gosod "y baich economaidd trymaf" ar y GIG o blith yr holl ddewisiadau ffordd o fyw.

Dywedodd arbenigwyr er bod peryglon iechyd i'r unigolyn oherwydd ysmygu a goryfed yn uchel, gan arwain at wario biliynau ar drin clefyd yr iau a chanser yr ysgyfaint, fod y nifer llawer uwch o bobl sy'n bwyta diet gwael yn cael effaith cynddrwg ar gostau'r GIG.

Mae canran yr oedolion sy'n ysmygu wedi haneru bron ers yn 1970au, ond mae lefelau gordewdra wedi cynyddu 400 y cant, gydag un o bob pedwar oedolyn bellach yn ordew.

Mae gordewdra a diet gwael yn cael eu cysylltu â chlefyd y galon, y rhan fwyaf o ganserau, diabetes a strôc, ymysg clefydau eraill. Meddai Ellen Mason, o Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF): "Mae nifer y bobl sy'n ysmygu wedi gostwng yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, ac er bod alcohol yn broblem fawr i rai pobl, os edrychwch chi ar y rhifau, diet – a diet gwael – yw'r peth sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o bobl."

Dywedodd yr uwch nyrs gardiaidd fod cenhedlaeth nad yw'n gwybod sut i goginio, a dibyniaeth helaeth ar fwyd sothach, yn golygu fod y diet cyffredin yn cynnwys lefelau braster a siwgr sy'n cynyddu risgiau llawer o glefydau.

Meddai: "I lawer o bobl, y broblem yw bwyta gormod, ac mae gordewdra'n gysylltiedig â llu o broblemau iechyd – ond mae yna bobl eraill sy'n edrych yn denau ac yn iach, ac eto mae lefelau halen a braster eu diet yn eu rhoi mewn perygl o strôc, clefyd y galon a risgiau eraill sy'n dod yn sgil pwysedd gwaed uchel."

Mae'r ymchwil, dan arweiniad yr Athro Peter Scarborough o adran iechyd y cyhoedd Prifysgol Rhydychen, yn amcangyfrif fod costau clefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn £3.3bn, gyda'r un gost yn cael ei gosod ar driniaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Dywedodd Tam Fry, o'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol, fod costau trin clefydau sy'n gysylltiedig ag arferion bwyta Prydain bellach yn bygwth llethu cyllidebau'r gwasanaeth iechyd.

Meddai: "Mae'r costau'n anhygoel – mae hyn bron â llethu'r GIG yn llwyr."

"Mae ffordd o fyw'r person cyffredin ym Mhrydain yn gynyddol seiliedig ar fyrbrydau, bwyd sothach a phrydau parod, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am y difrod erchyll y gall hyn ei achosi".

Cafodd yr astudiaeth, a gyllidwyd gan y BHF, ei gyhoeddi yn y Journal of Public Health.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.