| Plant bach sy'n cael potel yn fwy tebygol o fynd yn ordew |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 26 Mai 2011 15:56 |
|
Ddylai babanod ddim cael eu bwydo o botel ar ôl eu pen-blwydd cyntaf yn ôl ymchwilwyr a ganfu fod plant bach sy'n yfed llawer o laeth yn fwy tebygol o fynd yn ddifrifol dros bwysau.
Canfu astudiaeth o bron i 7,000 o blant fod y rhai oedd yn dal yn cael eu rhoi yn y gwely gyda photel o laeth yn ddwy oed 30 y cant yn fwy tebygol o fod yn ordew erbyn eu bod yn bump oed. Cred academyddion fod babanod sydd wedi arfer yfed llawer o laeth calori uchel yn mynd ymlaen i fwyta llawer o fwyd sy'n pesgi. Dywedant y dylai meddygon a rhieni geisio rhwystro babanod rhag bod yn ddibynnol ar boteli o laeth erbyn eu pen-blwydd yn flwydd oed. Meddai Rachel Gooze, o'r Ganolfan Ymchwil ac Addysgu ar Ordewdra ym Mhrifysgol Temple, Philadelphia: "Byddai merch 24 mis oed cyffredin o ran taldra a phwysau sy'n cael ei rhoi yn y gwely gyda photel 8 owns [ychydig llai na hanner peint] yn cael tua 12 y cant o'r calorïau sydd eu hangen arni am y dydd o'r botel honno." Bu'n hysbys ers amser hir fod babanod newydd anedig sy'n cael eu bwyd gyda llaeth fformiwla - sydd fel arfer yn cynnwys llaeth buwch gydag olew llysiau a fitaminau wedi eu hychwanegu - yn magu pwysau'n gyflymach na babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron. Mae rhai rhieni'n parhau i roi poteli o laeth buwch neu fformiwla arbennig i blant bach yn ystod y dydd neu amser gwely hyd yn oed ar ôl iddyn nhw fynd ar fwyd solet, o chwe mis ymlaen. Mewn papur a gyhoeddwyd yn y Journal of Paediatrics, bu ymchwilwyr yn dadansoddi data sy'n bodoli ar 6,750 o blant Americanaidd a aned yn 2001 er mwyn astudio'r cydberthynas rhwng defnydd hir o'r botel a gordewdra. Fe welsant fod cymaint â 22 y cant o blant naill ai'n defnyddio potel o laeth fel prif gynhwysydd eu diodydd neu'n cael eu rhoi yn y gwely gyda photel sy'n cynnwys calorïau. O blith y grŵp hwn, roedd 23 y cant yn ordew erbyn iddyn nhw fod yn 5.5 mlwydd oed. Meddai Dr Robert Whitaker o Brifysgol Temple: "Roedd plant oedd yn dal i ddefnyddio'r botel yn 24 mis tua 30 y cant yn fwy tebygol o fod yn ordew yn 5.5 mlwydd oed, hyd yn oed ar ôl cymryd ffactorau eraill i ystyriaeth megis pwysau'r fam, pwysau geni'r plentyn ac arferion bwydo yn ystod babandod." Cred yr awduron "y gall yfed o botel y tu hwnt i fabandod gyfrannu tuag at ordewdra drwy annog y plentyn i gymryd gormod o galorïau". Dywedant y dylai plant gael eu diddyfnu oddi ar laeth o un oed ymlaen, gyda chymorth meddygon. Gallai'r canfyddiadau hyn esbonio pam fod bron i chwarter o blant yn Lloegr yn rhy drwm erbyn eu bod yn cychwyn yn yr ysgol. Dengys ffigurau swyddogol fod 23.1 y cant o blant dosbarth derbyn naill ai dros bwysau neu'n ordew yn 2009-10. |
No current events.