| Mae bywyd modern yn 'cynhyrchu cenhedlaeth o liprynnod' yn ôl honiadau ymchwil wrth i gryfder corfforol leihau mewn plant 10 oed |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| THURSDAY, 26 Mai 2011 15:57 |
|
Mae ymchwil wedi dangos fod plant yn mynd yn wannach, yn llai cyhyrog ac yn methu gwneud tasgau corfforol yr oedd cenedlaethau blaenorol yn ei chael yn hawdd.
Wrth i genhedlaeth sy'n gaeth i ddigwyddiadau arlein dyfu i fyny, mae plant 10 oed yn gallu gwneud llai o ymarferion eistedd i fyny ac yn llai galluog i hongian o fariau wal yn y gampfa. Mae cryfder braich wedi gostwng yn y grŵp oedran, yn ogystal â'u gallu i afael mewn gwrthrych yn gadarn. Mae'r canfyddiadau a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn iechyd plant Acta Paediatrica, wedi arwain at bryderon o'r newydd am yr effaith ar iechyd plant gan y symudiad oddi wrth weithgareddau awyr agored. Bu academyddion, dan arweiniad Dr Gavin Sandercock, arbenigwr mewn ffitrwydd plant ym Mhrifysgol Essex, yn astudio pa mor gryf oedd grŵp o 315 o blant 10 oed yn Essex yn 2008 o'i gymharu â 309 o blant o'r un oedran ym 1998. Gwelsant fod:
"Mae'n debyg mai canlyniad i newidiadau mewn patrymau gweithgaredd yw hyn ymhlith plant 10 oed yn Lloegr, megis cymryd rhan mewn llai o weithgareddau fel dringo rhaff mewn Addysg Gorfforol a dringo coed am hwyl," meddai Sandercock. "Yn nodweddiadol roedd y gweithgareddau hyn yn rhoi hwb i gryfder plant, gan eu galluogi i godi a chynnal pwysau eu cyrff eu hunain." Roedd y ffaith nad oedd 10% yn gallu gwneud y prawf bariau wal a bod 10% arall yn gwrthod trio yn "arswydus" ac ychwanegodd, "Mae hyn yn dangos mae'n debyg nad oedd dringo a chynnal eu pwysau eu hunain yn rhywbeth yr oedden nhw wedi ei wneud o'r blaen mewn gwirionedd." Roedd ymchwil flaenorol eisoes wedi dangos fod plant yn dod yn llai ffit, yn llai actif ac yn fwy eisteddog, ac yn aml iawn yn drymach nag o'r blaen. Ond canfu'r astudiaeth newydd hefyd fod indecs mas y corff (BMI) plant yn 2008 yr un fath â BMI plant ddegawd cyn hynny. Meddai'r prif awdur, Daniel Cohen, o Brifysgol Fetropolitaidd Llundain, fod hyn yn golygu, yn wyneb y gostyngiad mewn cryfder, fod cyrff y grŵp yn y prawf diweddar yn debyg o gynnwys mwy o fraster a llai o gyhyrau na'u rhagflaenwyr. "Mae hynny'n achos pryder gwirioneddol o safbwynt iechyd. Mae'n newyddion da nad yw eu BMI wedi codi, ond yn bryderus eu bod yn wannach ac yn debyg o fod yn cario mwy o fraster," meddai Sandercock. Mae'r awduron am i weinidogion leihau eu dibyniaeth ar y Rhaglen Mesur Plant Cenedlaethol, sy'n mesur BMI plant cynradd, a chyflwyno profion ffitrwydd ym mhob ysgol – galwad gafodd ei wneud y llynedd gan y prif swyddog meddygol ar y pryd, Syr Liam Donaldson. "Roedd dringo coed a rhaffau'n arfer bod yn rhywbeth arferol i blant eu gwneud, ond mae awdurdodau ysgol ac 'iechyd a diogelwch' wedi llwyddo i fwrw'r stwffin allan o'n plant," meddai Tam Fry o Sefydliad Tyfiant Plant. "Roedd syrthio allan o goeden yn arfer bod yn wers dda mewn pigo eich hun i fyny a dysgu i ddringo'n well. Erbyn hyn mae ofn ymgyfreithiad yn atal y plentyn rhag dringo yn y lle cyntaf." Ychwanegodd "Efallai bod profion ffitrwydd yn briodol, neu efallai ddim, ond ddylai Sandercock ddim bod yn gwrthwynebu defnyddio mesuriadau BMI." Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd fod y llywodraeth wedi cyflwyno nifer o raglenni i hyrwyddo ffyrdd o fyw actif ymhlith yr ifanc, a bod yr arolwg iechyd yn Lloegr wedi adrodd yn ôl ar lefelau ffitrwydd corfforol. Ychwanegodd "Nid oes gan yr Adran Iechyd unrhyw gynlluniau ar y funud i gyflwyno profion ffitrwydd i blant." |
No current events.