Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Plant mewn perygl o glefyd y galon drwy beidio ag ymarfer corff
Plant mewn perygl o glefyd y galon drwy beidio ag ymarfer corff PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
THURSDAY, 26 Mai 2011 15:59

Mae astudiaeth yn dangos y gallai plant mor ifanc â naw oed fod yn eu rhoi eu hunain mewn perygl o ddatblygu clefyd y galon yn y dyfodol drwy beidio â gwneud digon o ymarfer corff.

 

Bu ymchwilwyr yn Sweden yn astudio 223 o blant â'u cyfartaledd oedran ychydig o dan 10 oed, a gwelsant fod gan y rhai oedd yn gwneud y lefelau isaf o ymarfer corff fwy o fraster corff a chyfradd curiad y galon uwch wrth orffwys na'r rhai oedd yn ymarfer fwyaf.

Gwelsant y gallai merched yn arbennig fod yn peryglu eu hiechyd yn y dyfodol drwy beidio ag ymarfer ddigon. Roedd bechgyn yn gwneud cyfartaledd o 45 o ymarfer corff cymedrol i egnïol y dydd, a'r merched ond yn gwneud 35 munud. Yn y cyfnod hwnnw roedd bechgyn yn treulio 15 munud yn gwneud ymarfer egnïol a merched dim ond 11 munud.

Canfu tîm yn Ysbyty Prifysgol Skane, Malmo, Sweden hefyd fod gan ferched ganran uwch o fraster corff na bechgyn – 22.6 y cant o'i gymharu ag 16.2 y cant. Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaeth gwirioneddol i'w weld mewn mesur arall o dewdra, indecs mas y corff (BMI).

Serch hynny, roedd cyfradd curiad y galon wrth orffwys yn uwch mewn merched na bechgyn, 85 o'i gymharu ag 80. Pwysleisiodd Dr Tina Tanha, oedd yn arwain yr astudiaeth, mewn cyhoeddiad yn y cylchgrawn Acta Paediatrica, nad oedd eu hymchwil yn gall pennu faint oedd gan y gwahaniaethau hyn i'w gwneud â rhyw neu lefel ymarfer corff.

Ond dywedodd ei fod yn rhybudd i rieni plant nad oedd yn gwneud digon o ymarfer corff.

Meddai: "Mae'n hysbys fod diffyg gweithgaredd corfforol mewn oedolion yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o glefydau ac â phob achos marwolaeth.

"Credwn fod ein hastudiaeth yn awr yn dangos cysylltiad clinigol clir rhwng diffyg gweithgaredd corfforol a ffactorau risg lluosog o glefyd cardiofasgwlaidd mewn plant."

Nid oedd hyn yn golygu fod gan blant glefyd y galon, eglurodd, ond yn hytrach fod rhai ohonynt yn arddangos ffactorau risg sy'n gysylltiedig â'i ddatblygu mewn oedolion.

Dywedodd Natasha Stewart, uwch nyrs gardiaidd yn Sefydliad Prydeinig y Galon: "Mae clefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed yn rhywbeth sy'n effeithio ar oedolion, nid plant, felly mae'n anodd rhagweld y risg o blentyn yn ei ddatblygu yn ddiweddarach yn ei fywyd.

"Fodd bynnag, mae manteision bod yn actif yn gorfforol ar unrhyw oed wedi eu hen sefydlu gydag astudiaethau'n dangos y gall atal plant rhag datblygu clefydau yn ddiweddarach yn eu bywydau yn ogystal â gwella eu lefelau canolbwyntio yn yr ysgol, eu iechyd a'u lles meddwl cyffredinol.

"Mae'r astudiaeth hon yn cadarnhau'r angen i ymgorffori'r targed argymelledig o 60 munud o weithgaredd corfforol i fod yn rhan o fywyd bob dydd plant."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.