Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Rôl y diwydiant bwyd mewn gordewdra plant yn llai amlwg ar y teledu
Rôl y diwydiant bwyd mewn gordewdra plant yn llai amlwg ar y teledu PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 24 JUNE 2011 12:58

Mae ymdriniaeth y teledu o ordewdra plant yn llai tebygol na chyfryngau printiedig i ffocysu ar rôl y diwydiant bwyd a diod, yn ôl adroddiad newydd yn y cyfnodolyn Pediatrics.

Ar yn llaw arall, mae rhwydweithiau teledu'n amlach yn sôn am atebion ar lefel bersonol, megis ymarfer corff a bwyta bwydydd iach.

Mae hynny'n fater pryder, yn ôl ymchwilwyr, gan y gall canolbwyntio ar ffyrdd unigol o fynd i'r afael â gordewdra yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion cymdeithasol gwaelodol dynnu sylw'r cyhoedd oddi ar newidiadau angenrheidiol.

"Os ydyn ni'n credu mai unigolion yn newid eu hymddygiad yw'r ateb i ddatrys y broblem, yna does dim lle ar gyfer newidiadau polisi," meddai Colleen Barry o Ysgol Iechyd y Cyhoedd Johns Hopkins Bloomberg yn Baltimore, fu'n gweithio ar yr astudiaeth.

Yn ôl Canolfan Rheoli ac Atal Clefydau'r UD, mae gordewdra plant wedi mwy na threblu dros y 30 mlynedd diwethaf, gan gyrraedd bron i 20 y cant yn 2008.

Bu Barry a'i chydweithwyr yn dadansoddi sampl o 806 o'r straeon newyddion gafodd sylw yng nghylchgronau a phapurau newydd yr UD ac ar y rhwydweithiau teledu rhwng 2000 a 2009.

Canfu'r tîm fod bron pob stori'n sôn am ryw fath o ateb i broblem gordewdra. Roedd tua dau draean o straeon newyddion y teledu'n sôn am newidiadau diet neu ymarfer corff, tra bod papurau newydd yn gwneud hynny 52 y cant o'r amser a chylchgronau 58 y cant o'r amser.

Mewn cyferbyniad, roedd rhwydweithiau teledu'n sôn am atebion ar lefel systemau – megis creu caeau chwarae neu wneud yn siŵr fod bwydydd iach ar gael mewn ardaloedd tlawd – yn llai aml na chyfryngau print.

Yn benodol, dim ond 18 y cant o'r amser yr oedd rhwydweithiau'n pwyntio at newidiadau potensial yn y diwydiant bwyd a diod, o'i gymharu â dros 30 y cant mewn papurau newydd a chylchgronau.

Dywedodd Barry nad oedd y rhesymau dros hyn yn eglur, ond dywedodd efallai bod hysbysebion gan y diwydiant ar y teledu'n chwarae rhan.

"Mae newyddion y teledu'n dibynnu'n drymach ar arian hysbysebu gan y diwydiant bwyd a diod, felly rwy'n credu y gallai hynny gael peth dylanwad," meddai wrth Reuters Health.

Yn ôl data gan Gwmni Nielsen, roedd y diwydiant bwyd yn talu am tua 15 y cant o hysbysebion teledu yn 2008, o'i gymharu â dim ond dau y cant o'r hysbysebion mewn papurau newydd.

Esboniad arall posibl am y gwahaniaeth mewn ymdriniaeth yw y gallai atebion sy'n seiliedig ar systemau fod yn rhy haniaethol ac felly'n anoddach eu dangos ar gyfrwng gweledol, meddai Barry.

Canfu'r ymchwilwyr hefyd fod ymdriniaeth o ordewdra plant wedi lleihau'n amlwg ers 2007, er bod y pwysau ychwanegol yn dal yn bla yn ein cymdeithas.

"Mae'n broblem difrifol i iechyd y cyhoedd, ac er gwaethaf ymdrechion i newid ymddygiad pobl, nid yw gordewdra plant yn dangos unrhyw arwyddion ei fod yn lleihau," meddai Barry.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.