| Diffyg Fitamin D wedi'i gysylltu â gordewdra mewn plant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 24 JUNE 2011 12:59 |
|
Mae rôl fitamin D yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel elfen bwysig i warchod iechyd, nid yn unig ar gyfer metabolaeth calsiwm mewn iechyd esgyrn, ond hefyd mewn cyflyrau eraill hefyd. Mae'r ffaith hon yn gwneud y diffyg eang mewn fitamin D ar hyn o bryd yn fwy ysgogol, ac mae astudiaeth ddiweddar wedi canfod fod annigonedd a diffyg difrifol o fitamin D yn bodoli mewn pobl ifanc gordew. Edrychodd yr astudiaeth ar lefelau gwaed 25 (OH) D mewn 68 o bobl ifanc gordew, a chanfuwyd fod pob un o'r merched â lefelau fitamin D isel, gyda 74 y cant yn ddiffygiol a 28 y cant yn annigonol. Ymysg y bechgyn roedd gan 91 y cant lefelau isel, gyda 69 y cant yn ddiffygiol a 22 y cant yn annigonol. Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, y paediatregydd Zeev Harel, " Mae'n bosibl fod y cysylltiad rhwng gordewdra a statws fitamin D isel yn un anuniongyrchol, yn deillio o'r ffaith fod gan unigolion gordew lai o weithgareddau awyr agored nag unigolion tenau, ac felly yn cael llai o olau haul. Yn yr un modd, mae hi hefyd yn bosibl nad yw unigolion gordew yn bwyta digon o fwydydd sy'n cynnwys fitamin D." Mae astudiaethau eraill hefyd wedi canfod cysylltiad rhwng gordewdra a diffyg fitamin D, o bosib o storio fitamin D mewn meinwe braster. Canfu astudiaeth Ysbyty Blant Hasbro hefyd anhawster gyda thrin y broblem. Roedd tua dau draean o'r cleifion wedi cael mesur eu lefelau fitamin D ar ôl derbyn triniaeth, ac o'r grŵp hwnnw, dim ond 28 y cant oedd wedi cyrraedd lefelau normal. Nid oedd y cleifion eraill wedi cyrraedd lefelau normal hyd yn oed ar ôl aml driniaethau. Wrth drafod y broblem, dywedodd Harel, "Mae mynychder statws isel fitamin D ymhlith pobl ifanc gordew yn yr astudiaeth hon yn fwy a'r hyn a adroddwyd yn flaenorol ar gyfer y grŵp oedran hwn. Mae'n achos pryder i ni mai dim ond 28 y cant ohonynt oedd yn gallu cyrraedd lefelau fitamin D normal yn dilyn un cwrs o driniaeth o'r ddogn argymelledig o fitamin D, gyda'r 72 y cant arall yn methu cyrraedd lefelau normal hyd yn oed ar ôl aml driniaethau." Mae pob unigolyn sydd â lefelau fitamin D isel mewn mwy o berygl o ran iechyd. Mae tystiolaeth sy'n cysylltu lefelau iach o fitamin D gydag amddiffyniad yn erbyn mathau arbennig o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd, ac anhwylderau hunaimiwn, yn ogystal â chlefydau eraill. Credir hefyd fod fitamin D yn helpu i roi hwb i'r system imiwnedd yn erbyn heintiadau. Mae cysylltiad wedi ei ganfod rhwng cyflyrau iechyd gwael mewn pobl ifanc â lefelau isel fitamin D. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.