Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Plentyn gordew chwech oed yn cael strôc
Plentyn gordew chwech oed yn cael strôc PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 24 JUNE 2011 13:00

Mae tystiolaeth ddramatig wedi ei datgelu yn dangos sut y mae plant ifanc a babanod hyd yn oed yn dioddef yn sgil yr epidemig gordewdra.

Mae babanod yn cael eu trin mewn ysbytai oherwydd eu pwysau – rhai ohonynt ar ôl cael eu diddyfnu ar fwyd sothach wedi'i stwnshio – ac mae plant mor ifanc â chwech oed yn cael strôc.

Dywed meddygon fod niferoedd cynyddol o fabanod a phlant bach yn cael diagnosis o fod yn glinigol ordew a hyd yn oed yn dioddef o glefydau sy'n gysylltiedig â phwysau sydd fel arfer yn digwydd i bobl hŷn.

Dengys ystadegau fod cannoedd o blant dan dair oed yn cael eu trin am ordewdra mewn ysbytai o gwmpas y wlad. Mae o leiaf 40 o fabanod dan flwydd oed wedi cael eu derbyn i ysbyty yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Rhybuddiodd arbenigwyr iechyd y cyhoedd y bydd lefelau gwirioneddol gordewdra ymysg babanod a phlant ifanc yn llawer uwch, gan mai dim ond yr achosion mwyaf eithafol sy'n cael eu gweld yn yr ysbytai.

Dywed arbenigwyr sy'n gweithio mewn clinigau gordewdra ysbytai eu bod yn gweld plant blwydd oed sy'n pwyso cymaint a thair stôn – bron i ddwywaith gymaint â phlant iach o'r un oed.

Dywedant fod mai un o brif achosion y broblem yw rhieni sy'n ceisio diddyfnu eu babanod yn rhy ifanc gan fwydo pethau amhriodol iddyn nhw.

Mae meddygon wedi gweld babanod yn cael eu bwydo gyda chreision, siocled a diodydd swigod. Mewn rhai achosion mae rhieni wedi eu canfod yn rhoi sglodion wedi eu stwnshio gyda llaeth, neu bwydydd tecawê wedi stwnshio.

Dywedodd arbenigwyr fod angen dysgu rhai rhieni beth i'w fwydo i fabanod. Mae'r data hefyd yn dangos fod llawer o'r plant gordew yn dioddef o anawsterau anadlu ac yn arddangos arwyddion cynnar o diabetes Math-2 cysylltiedig â gordewdra.

Mewn dwy enghraifft eithafol, cafodd plentyn chwech oed ac un wyth oed strôc y credir eu bod yn gysylltiedig â'u pwysau.

Cafodd y ffigurau hyn eu rhyddhau gan 66 o 168 ymddiriedolaeth ysbyty aciwt Prydain dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac maen nhw'n dangos fod dros 5,500 o blant dan 16 oed ddiagnosis neu driniaeth am ordewdra mewn ysbytai dros y pum mlynedd diwethaf.

Cafodd rhai o'r plant lawdriniaeth megis bandiau neu osgoad gastrig i drin eu cyflwr.

Mewn un achos cafodd merch 15 oed oedd yn pwyso dros 25 stôn ei thrin mewn ysbyty yng Ngogledd Swydd Stafford cyn i'w theulu fynd â hi i Mexico i gael band gastrig.

Mae teuluoedd cyfan hefyd wedi cael eu hanfon ar gyrsiau bwyta'n iach neu gynghori ar ddiet.

Rhoddodd pedwar deg pedwar o'r ymddiriedolaethau ysbyty ffigurau ar ddiagnosis a thriniaeth wedi eu dadansoddi yn ôl oedran. Cafodd pedwar cant o blant dan bump oed eu trin mewn ysbyty ar ôl cael diagnosis o ordewdra clinigol. Roedd hyn yn cynnwys 40 o blant dan flwydd oed, 49 o blant blwydd oed a 85 o blant dwy oed.

Dywedodd Dr Ken Ong, prif glinigydd gordewdra plant yn Ysbyty Addenbrooke, Caergrawnt: "Rwy'n bendant yn gweld plant dan ddwy flwydd oed. Rydyn ni'n gweld mwy a mwy yn cael eu cyfeirio yn y grŵp oedran hwnnw.

"Mae'r plant blwydd a dwyflwydd rydyn ni'n eu gweld yn ordew dros ben, ond dim ond y rhai mwyaf eithafol sy'n dod i glinig ysbyty. Bydd llawer mwy yn y gymuned neu sydd ddim yn cael eu hadnabod o gwbl.

"Y gobaith poblogaidd yw mai braster babi yw hwn ac y byddan nhw'n tyfu allan ohono, ond mae'n hastudiaethau ni'n dangos eu bod yn fwy tebygol o barhau i fod yn ordew a hyd yn oed i fynd yn fyw gordew."

Mae'r Athro Mary Rudolf yn baediatregydd ymgynghorol yn Leeds ac yn llefarydd ar ordewdra dros Goleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant. Dywedodd hi fod y ffigurau a ddarparwyd gan yr ysbytai'n debyg o fod yn grib y rhewfryn.

Meddai: "Dwi'n meddwl y bydd y ffigurau hyn yn amcangyfrif yn llawer rhy isel graddfa gordewdra plant bach. Mae diffyg ymwybyddiaeth o fewn gofal cynradd a'r gymuned y gall gordewdra gychwyn mor ifanc.

"Mae myth cyffredinol y bydd braster babanod yn diflannu wrth iddyn nhw dyfu. Mae'n bryder mawr pan fydd babanod yn ddifrifol dros bwysau gan mai'r taflwybr cyffredinol yw y byddan nhw'n parhau i ddilyn y gordewdra hwn nes bod yn oedolion."

Ychwanegodd: "Rhan o'r broblem yw bod gwasanaethau ysbytai am ordewdra yn ddiffygiol dros ben ar draws y wlad, felly dydy'r plant allai elwa o gael eu gweld ddim yn cael eu gweld o gwbl."

Erbyn iddyn nhw adael yr ysgol gynradd, mae un o bob tri phlentyn yn cael ei ddosbarthu yn ordew neu dros bwysau.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall bwyta afiach 'raglennu' chwaeth plant ifanc am weddill eu bywyd.

Mae ymchwilwyr eraill yn canfod tystiolaeth y gall genynnau plant fod wedi eu rhaglennu yn y groth gan ffordd o fyw eu rhieni.

Meddai'r Athro Terence Wilkin, ymgynghorydd mewn endocrinoleg a metabolaeth yn Ysbyty Derriford, Plymouth: "Yn ystod blwyddyn neu ddwy cyntaf bywyd mae'n hawdd i blant gael eu gwthio gan y dylanwadau anghywir at y gromlin dyfiant anghywir.

"Bu tuedd i ymwelwyr iechyd wthio'n galed braidd i blant sydd dan eu pwysau gael eu bwydo'n fwy er mwyn cwrdd â'r pwysau cyfartalog. Y broblem yw fod hyn yn achosi i'r pwysau cyfartalog gynyddu."

Mae Paul Sacher o'r Gymdeithas Ddeieteg Brydeinig yn brif swyddog ymchwil i MEND, elusen sy'n rhedeg rhaglenni trin ac atal gordewdra. Dywedodd fod llawer o rieni yn ddigon syml heb fod yn gwybod beth y dylen nhw fod yn ei fwydo i'w plant.

Ychwanegodd: "Rwy'n gweld plant drwy'r amser sy'n cael lolipop, bar o siocled neu becyn o greision wedi'i roi iddyn nhw. Rwy'n gweld mamau'n tywallt pop swigod i mewn i boteli eu babanod ac mewn rhannau o Gymru maen nhw'n rhoi sglodion mewn llaeth mewn poteli."

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.