| Cysylltiad rhwng diet mamau beichiog a gordewdra plant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 24 JUNE 2011 13:01 |
|
Gall diet mam feichiog yn ystod ei beichiogrwydd newid DNA ei baban yn y groth, gan gynyddu ei risg o ordewdra, clefyd y galon a diabetes yn ddiweddarach yn ei fywyd yn ôl canfyddiadau astudiaeth ryngwladol. Dywedodd ymchwilwyr fod yr astudiaeth wedi darparu'r dystiolaeth wyddonol gyntaf yn cysylltu diet menywod beichiog â gordewdra plant, gyda goblygiadau enfawr ar iechyd y cyhoedd. "Mae hwn yn gam mawr ymlaen oherwydd am y tro cyntaf mae'n rhoi'r potensial i ni weithio ar beth yw'r diet optimaidd y dylai mam ei fwyta," meddai'r Athro Peter Gluckman o Sefydliad Liggins Prifysgol Auckland wrth AFP. "Mae'n debygol y bydd i diet yn amrywio ychydig o fam i fam, ond gallai fod yn arf pwysig wrth fynd i'r afael â'r epidemig gordewdra." Dangosodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan wyddonwyr ym Mhrydain, Seland Newydd a Singapore, fod y bwyd oedd yn cael ei fwyta gan y fam yn ystod ei beichiogrwydd yn gallu newid swyddogaeth DNA ei phlentyn drwy broses o'r enw newid epigenetig. Canfu ymchwilwyr bod plant ag elfen uchel o newid epigenetig yn fwy tebygol o ddatblygu metabolaeth sy'n "gosod mwy o fraster i lawr" gan fynd yn ordew. Roedd rhai plant tua 3 cilogram (6.6 pwys) yn drymach na'u cymheiriaid erbyn iddyn fod rhwng chwech a naw oed, meddai Gluckman. "Mae hynny'n llwyth o bwysau ychwanegol yr odran yma," meddai, gan ychwanegu fod y braster ychwanegol yn debyg o gael ei gario ymlaen i oedolaeth, gan gynyddu'r siawns o ddatblygu diabetes a chlefyd y galon. Defnyddiodd yr ymchwilwyr feinwe llinyn bogail i fesur cyfradd y newid epigenetig mewn 300 o fabanod, gan archwilio wedyn i weld a oedd cysylltiad rhyngddo â phwysau'r plant hynny rhwng chwech a naw oed. "Roedd y cydberthyniad yn gryf iawn. Doedden ni ddim yn ei gredu ar y dechrau, felly fe wnaethon ni ailadrodd hyn dro ar ôl tro," meddai Gluckman. Canfu'r astudiaeth nad oedd yr effaith yn gysylltiedig â phwysau'r babi ar ei enedigaeth nag â phwysau'r fam, gan olygu y gallai dynes fain roi genedigaeth i fabi bach a aeth ymlaen i fod yn ordew oherwydd newidiadau gafodd eu sbarduno gan ddiet yn y groth. Dywedodd Gluckman ei bod hi'n bosibl fod cyfradd newid epigenetig yn gysylltiedig â diet carbohydrad isel yn nhri mis cyntaf beichiogrwydd ond ei bod hi'n rhy gynnar i ddod i gasgliad terfynol ac roedd angen cynnal astudiaethau pellach. Dywedodd fod un damcaniaeth yn dweud y byddai embryo oedd yn cael ei fwydo â diet oedd yn cynnwys ychydig o garbohydradau – sy'n rhoi egni i'r corff – yn cymryd yn ganiataol y byddai'n cael ei eni i amgylchedd isel mewn carbohydradau a'i fod felly'n altro ei fetabolaeth yn unol â hynny. Golygai hyn ei fod yn storio mwy o fraster y gellid ei ddefnyddio fel tanwydd pan fyddai bwyd yn brin. Dywedodd Gluckman fod yr astudiaeth, fydd yn cael ei chyhoeddi yn y cylchgrawn Diabetes yr wythnos nesaf, yn cadarnhau hen amheuon y gallai maethiad cyn-geni gwael gael effaith enfawr ar iechyd oedolaeth. Golygai hyn y dylai swyddogion iechyd sy'n brwydro yn erbyn cyfraddau gordewdra sy'n cynyddu'n gyflym edrych ar bolisïau sydd wedi eu cynllunio i wella iechyd mamau beichiog, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar helpu oedolion dros bwysau, meddai. "Mae'n rhoi'r ddadl gryfaf hyd yn hyn i roi mwy o bwys ar wella iechyd mam a phlentyn fel dull o leihau baich clefydau cronig." |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.