Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Astudiaeth gan Brifysgol Bangor yn targedu 'cylch' diodydd siwgraidd
Astudiaeth gan Brifysgol Bangor yn targedu 'cylch' diodydd siwgraidd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 24 JUNE 2011 13:02

Gall gormod o ddiodydd siwgraidd bylu blas ac arwain at "gylch cythreulig" o yfed mwy ohonyn nhw, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Bangor.

Dywed ymchwilwyr y dylai llywodraeth y DU ystyried trethu siwgr sy'n cael ei ychwanegu at fwydydd.

Honnant fod sensitifrwydd pobl dros eu pwysau i ddiodydd meddal wedi pylu a mwy o hoffter isymwybodol am bethau melys.

Dywedodd y Gymdeithas Diodydd Meddal nad yw gormod o unrhyw beth yn syniad da.

Dywedodd Dr Hans-Peter Kubis, oedd yn arwain yr ymchwil, fod ganddo 'oblygiadau difrifol' ar iechyd. Dywedodd y byddai methu mynd i'r afael â'r broblem yn gallu arwain at gynnydd mewn lefelau gordewdra a mwy o ddiabetes math 2.

Dywed yr ymchwilwyr y dylai plant yfed dŵr os ydyn nhw'n sychedig, gan fod lefelau uchel o siwgr mewn sgwosh a sudd ffrwythau naturiol hyd yn oed.

Dywed ymchwilwyr, a gynhaliodd dreialon gyda phobl o wahanol bwysau, fod eu gwaith yn dangos am y tro cyntaf fod gan bobl dros bwysau a gordew sensitifrwydd sydd wedi pylu i ddiodydd meddal.

Ond maen nhw hefyd yn datblygu mwy o hoffter isymwybodol o flasau melys.

Hyd yn oed i'r rhai nad ydyn nhw dros bwysau, mae yfed dau ddiod siwgraidd y dydd am bedair wythnos yn ddigon i bylu sensitifrwydd pobl i synhwyriad blasu.

Mae hyn yn lleihau'r mwynhad o'r blas, ond yn cynyddu hoffter y person ohono.

Wrth i'r amheuthun melys ddod yn llai pleserus, y duedd wedyn yw chwilio am fwy o fwyd neu ddiod melys, ac mae "cylch cythreulig" o fwyta bwyd melys a llawn calorïau yn cael ei sefydlu.

Mae'r diodydd melys yn cynnwys nid yn unig y diodydd meddal, gan fod lefelau siwgr mewn cordial ffrwythau neu 'sgwosh' a sudd ffrwythau naturiol, yn ogystal â diodydd carbonedig, yn golygu eu bod i gyd yn "rhy uchel mewn siwgr ac yn rhy felys", medd astudiaeth Bangor.

Mae pobl dros bwysau a gordew yn datblygu hoffter isymwybodol am bethau melys.

"Mae gan hyn oblygiadau difrifol o ran iechyd y cyhoedd," meddai Dr Hans-Peter Kubis, o ysgol gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff Prifysgol Bangor.

"Mae'r ymchwil yn dangos cyn lleied o fwyd sydd ei angen i newid eich canfyddiadau blasu, a pha mor bwerus yw cynnyrch sy'n blasu'n felys," ychwanegodd.

Dywedodd Dr Kubis fod siwgr ar gael yn fwy cyffredin heddiw nac ym mwydydd y gorffennol.

"Rydyn ni'n symud tuag at drychineb iechyd aml-lefel gyda lefelau gordewdra'n codi a chynnydd yn achosion diabetes math 2," meddai.

"Mae'n hymchwil ni'n dangos yn glir sut y gall y sefyllfa hon fod wedi creu cylch o fwyta ac yfed bwydydd a diodydd melys.

"Wrth i lefelau bodlonrwydd blas ostwng, mae mwy o fwydydd melys yn cael eu bwyta, gan gyfrannu at y problemau hyn," ychwanegodd.

Dywedodd Dr Kubis fod angen mynd i'r afael â'r broblem gael ar lefel genedlaethol.

"Fy ymateb i fyddai annog y llywodraeth i ystyried trethu siwgr sy'n cael ei ychwanegu at fwydydd – a chael yr arian o'r dreth honno wedi ei chadw'n benodol ar gyfer y gyllideb iechyd," meddai.

"Byddwn hefyd yn cwestiynu doethineb cynnwys sudd ffrwythau yn y neges pump y dydd," ychwanegodd. "Mae sudd ffrwythau'n uwch mewn siwgr nag y mae pobl yn sylweddoli," ychwanegodd.

Roedd y canlyniadau'n seiliedig ar brofion gafodd eu cynnal ym Mangor, mewn cydweithrediad ag Ysgol Feddygol Bryste.

Dywedodd llefarydd ar ran Gymdeithas Diodydd Meddal Prydain y dylid yfed diodydd meddal, fel pob bwyd a diod, fel rhan o ddiet cytbwys.

"Fel y mae pawb yn gwybod, gormod o ddim nid yw dda," ychwanegodd.

Byddai'n llawer gwell darparu'r wybodaeth gywir i "alluogi pobl i wneud dewisiadau hysbys, yn hytrach na gosod rheoliadau a threthi newydd," ychwanegodd.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.