Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Dylai plant tew gael eu 'hanfon i ofal maeth': Arbenigwr mewn gordewdra'n pwyntio bys at rieni
Dylai plant tew gael eu 'hanfon i ofal maeth': Arbenigwr mewn gordewdra'n pwyntio bys at rieni PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 18 JULY 2011 12:50

Dylai plant gordew gael eu hanfon i ofal maeth nes eu bod yn colli pwysau yn ôl honiadau un o brif arbenigwyr ym maes gordewdra.

Awgrymodd Dr David Ludwig hefyd y dylai rhieni ddilyn 'hyfforddiant' i'w hatal rhag prynu bwyd sothach.

Byddai'r cyfnod ar wahân yn para cyn lleied â phosibl i 'gefnogi nid y plentyn yn unig ond y teulu cyfan, gyda'r nod o gael y plentyn a'r teulu'n ôl at ei gilydd mor fuan â phosibl', meddai.

'Efallai y bydd angen hyfforddiant ar rianta,' ychwanegodd.

Esboniodd Dr Ludwig ei fod wedi cael ei ysbrydoli i fynegi barn ar ôl i ferch tair oed oedd yn pwyso 6 stôn 6 phwys ddod i'w glinig gordewdra.

Roedd gan ei rhieni anableddau corfforol a doedd ganddyn nhw ddim llawer o arian. Roedden nhw'n ei chael hi'n anodd rheoli ei phwysau hi.

Y llynedd, yn 12 oed, roedd hi'n pwyso 24 stôn 4 pwys ac roedd hi wedi datblygu diabetes, problemau colesterol, pwysau gwaed uchel ac apnoea cwsg.

Meddai Dr Ludwig, o Ysbyty Plant Boston, yr Unol Daleithiau: 'Oherwydd pryderon meddygol, anfonodd y dalaith y ferch i ofal maeth. Yno roedd hi'n cael tri phryd o fwyd cytbwys y dydd ac un neu ddau fyrbryd, a pheth gweithgaredd corfforol.'

Mae hi wedi colli 9 stôn 4 pwys ers hynny, ac er ei bod hi'n dal yn ordew, mae ei diabetes a'i apnoea wedi diflannu.

Mae hi'n dal i fod mewn gofal maeth.

Mewn llythyr yn y Journal of the American Medical Association, awgrymodd Dr Ludwig mai dim ond achosion eithafol o ordewdra ddylai arwain at symud plant – ond byddai hyn yn dal i effeithio ar ddwy filiwn o blant yn yr Unol Daleithiau.

Ychwanegodd fod symud plant o'r cartref teuluol yn well na'u rhoi drwy lawdriniaeth colli pwysau.

Mae ei sylwadau wedi arwain at ddadl ffyrnig, gyda rhai sylwedyddion yn ei gyhuddo o wthio'r wladwriaeth nani yn rhy bell.

Meddai Arthur Caplan, athro biofoeseg ym Mhrifysgol Pennsylvania: 'Mae ein cyfreithiau'n rhoi awdurdod enfawr i rieni, a hynny'n ddigon teg.

Yr unig sail i orfodi triniaeth feddygol yn erbyn ewyllys rhieni yw os yw plentyn o fewn dyddiau neu oriau o farw, a bod gwellhad profedig ar gael i'r hyn sy'n bygwth eu lladd.

'Nid yw gordewdra'n bodloni'r gofynion hyn.'

Y llynedd, ysgrifennodd Dr Russell Viner a chydweithwyr iddo yn y British Medical Journal fod gordewdra'n ffactor mewn nifer o achosion amddiffyn plant yn y DU.

Roeddent yn dadlau fod gwrthod ymdrechion i reoli pwysau plentyn gordew iawn yn cyfateb i 'esgeulustod'.

Fis Rhagfyr diwethaf, dadlennodd adroddiad gan y GIG fod un o bob deg plentyn yn Lloegr yn ordew pan fyddant yn cychwyn yn yr ysgol gynradd, a hynny'n codi i un o bob pump pan fyddant yn gadael.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.