| gallai gordewdra mewn plant arwain at glefyd yr iau yn ddiweddarach |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 18 JULY 2011 12:54 |
|
Gallai clefyd yr iau effeithio ar fywydau dros 500,000 o bobl ifanc yn sgil gordewdra mewn plant, yn ôl un o arbenigwyr y llywodraeth. Rhybuddiodd yr Athro Martin Lombard, cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol yr Adran Iechyd ar yr iau, fod y DU'n wynebu sefyllfa ffrwydrol mewn perthynas â chlefyd yr iau. Mae un o bob pedwar plentyn pedair a phump oed dros eu pwysau neu'n ordew, gan eu rhoi mewn perygl o glefyd iau brasterog analcoholig. . Mae hyn yn digwydd pan fydd braster yn adeiladu yn yr iau, gan achosi llid a chwydd ac mewn rhai achosion gall arwain at sirosis yr iau sy'n gallu bod yn farwol. Yn ôl ffigurau'r llywodraeth, gallai tua 500,000 o blant rhwng 4 a 14 fod mewn perygl o gael clefyd yr iau, yn cynnwys 60,000 o blant 10 oed. Bydd y broblem yn gwaethygu wrth i ordewdra gynyddu; mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd 63% o blant yn ordew erbyn 2050. Meddai Sarah Matthews, o Ymddiriedolaeth yr Iau Prydain: "Er mai alcohol sy'n cael ei weld fel prif achos clefyd yr iau yn y DU, mae niwed i'r iau'n gysylltiedig â phwysau yn mynd i fod yn broblem enfawr i iechyd y cyhoedd, os yw'r hyn a ragwelir yn profi i fod yn wir gallai gordewdra drechu alcohol fel y prif yrrwr sirosis yn y dyfodol." |
No current events.