| Rhaid i fabanod 'ymarfer yn rheolaidd' i frwydro gordewdra |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 18 JULY 2011 12:55 |
|
Dylai plant dan bump oed ymarfer am o leiaf tair awr y dydd yn ôl canllawiau newydd gan y llywodraeth sydd wedi eu hanelu at fynd i'r afael â gordewdra mewn plant. Bydd y canllawiau'n dweud y dylai plant bach orfod cerdded am o leiaf 15 awr yn ystod teithiau arferol, megis mynd i'r feithrinfa, a dylai babanod gael gwersi nofio a dylent ymestyn ar fatiau "campfa babanod". Dyma'r tro cyntaf i rai dan bump oed fod yn ffocws i gyngor ar ymarfer gan y llywodraeth ac mae'n cael ei gyhoeddi wrth i bryderon gynyddu am gyfraddau gordewdra mewn plant ym Mhrydain. Bydd y canllawiau iechyd yn cael eu cyhoeddi gan y Fonesig Athro Sally Davies, prif swyddog meddygol Lloegr, a'i swyddogion cyfatebol yn y gwledydd eraill, yn ôl adroddiad yn y Sunday Times. Meddai: "I blant sydd ddim yn cerdded eto, mae cryn dystiolaeth fod caniatáu iddynt gropian, chwarae neu rowlio ar y llawr yn hanfodol yn ystod y blynyddoedd cynnar. "Mae chwarae sy'n caniatáu i blant dan bump oed symud o gwmpas yn allweddol ac mae tair awr y dydd yn hanfodol. "Rwy'n credu fod yna rieni nad ydynt yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i'w plant fod yn gorfforol actif am o leiaf dair awr. "Mae rhieni eraill yn brysur iawn ac efallai nad ydynt yn gweld pa mor bwysig yw hi iddyn nhw flaenoriaethu'n gywir a chael y cydbwysedd yn iawn." Amcangyfrifir mai dim ond 30 y cant o blant sy'n cael y lefel o ymarfer dyddiol a argymhellir ac mae ymchwil ddiweddar wedi awgrymu bod cysylltiad rhwng diffyg gweithgaredd corfforol a datblygiad ymennydd gwael. Dywedodd yr Athro Fiona Bull, cadeirydd pwyllgor y llywodraeth sy'n gyfrifol am y canllawiau, y dylai rhieni "droi'r teledu i ffwrdd". Dywedodd yr Athro Bull, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gweithgaredd Corfforol Sefydliad Prydeinig y Galon ym Mhrifysgol Loughborough: "Rydyn ni'n rhoi plant mewn cadeiriau, eu gosod o flaen y teledu, yn eu rhoi ar y sedd gefn mewn cadeiriau car ac yn gyrru i lawer o lefydd." |
No current events.