| Brwydro Gordewdra yn y Groth: Astudiaeth yn y DU yn trin Menywod Beichiog gyda Chyffur Diabetes |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 18 JULY 2011 12:56 |
|
Pa mor bell fyddwn ni'n mynd i rwystro gordewdra mewn plant? Mae ymchwilwyr yn y DU yn dod â'r frwydr yn erbyn gordewdra i fabanod sy'n dal yn y groth. Gyda'r dull newydd hwn, fydd yn y pen draw yn cynnwys 400 o fenywod beichiog yn y DU, bydd menywod beichiog gordew'n derbyn y cyffur diabetes Metformin yn y gobaith y bydd hyn yn lleihau siawns eu baban o ddatblygu clefyd y galon, gordewdra a diabetes math 2 yn ddiweddarach yn eu bywyd. Y llywodraeth sy'n cyllido'r astudiaeth, a bydd yn un o'r profion mwyaf helaeth hyd yn hyn o gysyniad a elwir yn' raglennu'r ffoetws <http://abcnews.go.com/WNT/video/real-effect-exercise-body-14004141>- newid amgylchedd y groth er mwyn effeithio ar iechyd y plentyn. Mae meddygon eisoes yn defnyddio "rhaglennu'r ffoetws" mewn ffyrdd llai eithafol drwy annog menywod beichiog i gymryd ychwanegiadau cyn-geni, newid eu diet, ac osgoi defnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae'r astudiaeth hon yn addo cyflwyno lefel newydd sbon allai un diwrnod fod yn un cyffredin: defnyddio meddyginiaethau na fyddai eu hangen ar y fam fel arall er mwyn creu newid yn amgylchedd y ffoetws. Mae rhaglennu'r ffoetws yn naturiol yn "broses cymhleth a esblygodd dros filiynau o flynyddoedd i helpu'r ffoetws i addasu i'r byd y bydd yn dod ar ei draws ar ôl ei enedigaeth," meddai Dr Alison Stuebe, athro cynorthwyol mewn meddyginiaeth y ffoetws yn UNC-Chapel Hill. "Dyma sut mae'r fam yn 'dweud' wrth ei baban sut le fydd y byd tu allan." Mae tuedd i fenywod gordew fod â lefelau uwch o siwgr yn y gwaed yn ystod beichiogrwydd, ac mae'r lefelau uchel hyn yn "dweud" wrth y ffetws fod angen iddo wneud llawer o inswlin iddo'i hun. O ganlyniad mae babanod mamau gordew'n tueddu i fod yn drymach ac i greu mwy o inswlin. Mae ymchwil yn dangos fod y babanod mwy hyn yn tyfu i fyny i fod yn blant ac yn oedolion sydd mewn mwy o berygl o fod yn ordew, cael clefyd y galon a diabetes math 2. Trwy roi'r cyffur diabetes Metformin i famau beichiog gordew – er nad ydynt yn dioddef o ddiabetes – bydd ymchwil yn lleihau eu lefelau glwcos, gyda'r gobaith y bydd hyn yn lliniaru effeithiau negyddol gordewdra mamol. Bydd hi'n cymryd blynyddoedd i weld a fydd yr ymyriad hwn yn fuddiol <http://abcnews.go.com/Health/white-fat-turned-brown-shed-pounds/story?id=13999861>. Ond yn y tymor byr, bydd pwysau'r babanod hyn ar eu genedigaeth yn farciwr cychwynnol ynghylch pa mor dda mae'r Metformin yn addasu amgylchedd y ffetws. Cafodd rhaglennu'r ffetws ei drafod am y tro cyntaf pan nododd David Berker, epidemiolegydd o'r DU, fod babanod gafodd eu geni i famau oedd wedi dioddef diffyg maeth yn sgil y "gaeaf llwglyd" yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn yr Iseldiroedd wedi bod â lefel uwch o risg o glefyd y galon yn ddiweddarach yn eu bywydau. Yn eironig, mae ymchwil ers hynny wedi cadarnhau y gall gorfwyta a pheidio bwyta digon yn ystod beichiogrwydd gynyddu risg baban o fod yn ordew a datblygu clefyd y galon yn ddiweddarach yn ei fywyd, ond am resymau gwahanol iawn i'w gilydd. Yn hytrach na bod â gormod o siwgr yn y gwaed, mae babanod sy'n cael eu geni i famau dan eu pwysau yn cael eu rhaglennu i gredu nad oes digon o fwyd yn y byd ac felly rhaid iddyn nhw ddargadw calorïau ar bob cyfrif, meddai Dr Hye Heo, arbenigwr ar raglennu'r ffetws yng Nghanolfan Meddygol Montefiore, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar effeithiau gorfwyta a newyn ar ddeilliannau'r ifanc mewn llygod mawr. Dywedodd Heo: "Ar y cam hwn yn yr ymchwil, rydym yn dal i geisio deall beth sy'n cael ei newid yn y groth, pam fod rhyw fath o gof [yn y ffetws] sy'n parhau ac yn arwain at newidiadau yn y ffordd yr ydym yn datblygu yn ddiweddarach yn ein bywydau." |
No current events.