Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Chwarae Plant
Chwarae Plant PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 18 JULY 2011 14:14

Mae’r rhaglen Ffordd o Fyw yn un o ddwy raglen sy’n dod dan aden y fenter Teuluoedd Iach yng Nghymru. Enw’r rhaglen arall yw Chwarae Plant.

Mae’r rhaglen Chwarae Plant wedi ei anelu at blant hyd at 12 oed sy’n byw yng Nghymru, ac yn neilltuol at blant rhwng 8 a 12 oed. Mae’n rhaglen strategol sy’n anelu at gael effaith mawr ar chwarae plant yng Nghymru drwy gefnogi datblygiad y rhwydwaith mewnol sy’n angenrheidiol i ddarparu chwarae yn ogystal â rhoi grantiau i brosiectau sy’n cynnig cyfleoedd chwarae. Mae Cronfa’r Loteri Fawr wedi dyfarnu 20 grant gwerth dros £1.3 miliwn drwy’r rhaglen hon.

Yn unol ag amcanion y rhaglen Ffordd o Fyw, mae Cronfa’r Loteri Fawr yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau gyda chwarae plant ac oherwydd hyn mae’n annog prosiectau i gysylltu gyda phrosiectau eraill sy’n cael eu hariannu gan y rhaglen Chwarae Plant.

Mae CLF yn credu y gallai pobl o’r ddwy raglen elwa drwy ymagwedd cydgysylltiedig tuag at faetheg, gweithgaredd corfforol a chwarae a gallent hefyd elwa drwy rannu gweithgareddau a syniadau ynghylch sut i ymgysylltu â theuluoedd a phlant ifanc.

I ddysgu mwy am y prosiectau rydym yn eu hariannu yn eich ardal chi ac am fanylion cyswllt, cliciwch ar y ddolen isod.

icon Chwarae Plant Gorffennaf 2011 (17.9 kB)

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.