Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd
Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 18 JULY 2011 14:17

Mae Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru mewn cydweithrediad gyda Rhwydwaith Iechyd Rhyw Cymru Gyfan a Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn awr yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd.

PHGPSlogoMae Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd yn ddull sy’n cefnogi pob ymarferydd, sefydliad a sector sy’n gweithio o fewn mentrau hybu iechyd, gwella iechyd a datblygu iechyd cymunedol ym meysydd maeth a gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl a iechyd rhyw.

Mae’r cynllun yn cynnwys cronfa ddata arfer da, marc ansawdd, dyfarniadau a darparu cefnogaeth. Mae’n gwobrwyo arfer da a bydd yn cynnig dull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau ar y cynllun er mwyn osgoi dyblygu, gwella dysgu a galluogi gwneud penderfyniadau ynghylch pa fentrau i’w mabwysiadu neu i’w datblygu.

Mae cymryd rhan yn y cynllun yn cynnig cryn fanteision i brosiectau Ffordd o Fyw, yn cynnwys:

  • Myfyrio ar arfer a dysgu yn ei sgil
  • Cael adborth o adolygiadau cymheiriaid, gydag arwyddbyst ynghylch sut i weithio ymhellach tuag at arfer da
  • Codi proffil o’r fenter, y sefydliad a’r sector a gyflwynwyd
  • Defnyddio’r marc ansawdd a derbyn dyfarniad cenedlaethol
  • Adeiladu perthynas gyda mentrau eraill
  • Helpu i hybu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth a hyrwyddo dyheadau’r Rhwydweithiau.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun a sut i gofrestru eich manylion gyda’r rhwydweithiau, ewch i:

http://www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk/w-home.cfm?orgid=740

Neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Beth Preece ar 029 2082 7626 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.