| Mae plant mamau sy'n gweithio yn dewch yn ôl arolwg newydd |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:21 |
|
Mae ymchwil wedi awgrymu fod plant yn mynd yn dewach po fwyaf o amser y mae eu mamau'n treulio yn y gwaith. Dywedodd astudiaeth Llywodraeth yr Alban y gallai rhan o'r rheswm fod oherwydd bod mamau prysur yn defnyddio mwy o brydau parod a bwyd cyflym. Canfu astudiaeth y Millennium Cohort fod plant saith oed oedd eu mamau'n gweithio yn llai tebygol o fod yn ordew nag eraill. Ond mae'r perygl o ddod yn rhy drwm yn cynyddu gyda nifer yr oriau mae mamau'n eu treulio yn y gwaith. Meddai'r adroddiad: "Roedd nifer cynyddol o oriau gwaith yr wythnos i famau'n gysylltiedig â chynnydd yn achosion o fod yn rhy drwm neu'n ordew yn saith oed." Dywedodd yr ymchwilwyr fod hyn yn bryder neilltuol i blant o gartrefi cefnog. Pwysleisiodd yr astudiaeth, fu'n edrych ar 13,800 o deuluoedd, fod yna ffactorau eraill, mwy arwyddocaol, oedd yn effeithio ar ordewdra mewn plant. Mae'r rhain yn cynnwys pwysau geni a bod â rhieni sydd dros eu pwysau neu sy'n ysmygu. Yn y DU mae 23 y cant o blant saith oed dros eu pwysau ac 11 y cant yn ordew. |
No current events.