Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Astudiaeth yn canfod fod meddygon teulu'n 'amharod' i drafod gordewdra gyda rhieni
Astudiaeth yn canfod fod meddygon teulu'n 'amharod' i drafod gordewdra gyda rhieni PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:25

Mae'n bosibl fod meddygon teulu'n cyfrannu at broblem gordewdra Prydain drwy fethu â thrafod problemau pwysau plant gyda'u rhieni, yn ôl ymchwil newydd.

Bu gwyddonwyr yn Ysgol Meddygaeth Gymunedol a Chymdeithasol Prifysgol Bryste yn edrych ar 285 i deuluoedd gyda phlant rhwng pump ac un ar bymtheg oed, pob un o'r rheiny â mynegai màs y corff (BMI) yn y categori 'gordew' yn y ddwy flynedd flaenorol.

Anfonwyd llythyr at rieni yn eu gwahodd i weld eu meddyg teulu am bwysau eu plentyn a dangosodd yr astudiaeth mai dim ond 47 y cant o rieni wnaeth hynny.

Dim ond 19 o gleifion (6.7 y cant) gafodd eu cyfeirio wedyn at glinig Gofal dros Ordewdra Plant (COCO) a chafodd 6 o gleifion eraill (2.1 y cant) eu cyfeirio at fath arall o raglen rheoli pwysau.

Meddai Dr Jonathan Banks, y cafodd ei ganfyddiadau eu cyhoeddi yn y British Journal of General Practice: 'Nid oedd strategaeth yr astudiaeth i gysylltu â theuluoedd plant oedd â BMI yn y categori gordew yn llwyddiannus.

'Er bod cydnabyddiaeth bod angen am ymchwil o ansawdd da i ddulliau rheoli pwysau plant, mae profiad yr astudiaeth hwn yn dangos fod angen cyfatebol i archwilio sut i ennyn diddordeb rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd cynradd i adnabod gordewdra a'r angen i rheoli'r cyflwr yn weithredol.'

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.