| Marchnata'r sector preifat yn cynnig "rhestr wirio" ar gyfer polisi bwyta'n iach |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:28 |
|
Mae apêl emosiynol ac ymateb yn gyflym i ffasiynau ymysg y ffactorau llwyddiant marchnata y mae ymchwil newydd wedi eu nodi i helpu i ddatblygu polisïau bwyta'n iach. Mae'r prosiect EATWELL, a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, wedi edrych ar dechnegau marchnata'r sector preifat i weld a fyddai modd eu defnyddio yn y sector cyhoeddus yn ei ymdrechion i hybu bwyta'n fwy iach. Mae EATWELL (Ymyriadau i Hyrwyddo Arferion Bwyta'n Iach: Gwerthusiad ac Argymhellion) yn anelu i ddarparu canllawiau arfer gorau i aelod-wladwriaethau Ewropeaidd ar gyfer datblygu ymyriadau polisi i annog bwyta'n iach ar draws Ewrop. Jessica Aschemann-Witzel, athro cynorthwyol ac ymchwilydd yn MAPP, Canolfan Ymchwil ar Gysylltiadau Cwsmeriaid yn y Sector Bwyd, ym Mhrifysgol Aarhus, oedd yn arwain yr ymchwil oedd yn seiliedig ar astudiaethau achos penodol o dechnegau marchnata llwyddiannus. Meddai: "Fe ddewison ni achosion yn benodol oedd â rhai cysylltiadau iechyd felly roedd naill ai'n gynnyrch iach, neu efallai'n gynnyrch bwyd oedd yn cael ei gyfathrebu mewn perthynas â gofal iechyd, neu efallai ei fod yn gynnyrch oedd wedi cael ei ail-ffurfio ac felly roedd ganddo gysylltiadau iechyd." Fe gymerwyd cymysgedd o achosion o ar draws Ewrop hefyd, cwmnïau o wahanol feintiau a chategorïau nwyddau, er enghraifft. Yna nododd yr ymchwilwyr elfennau cyffredin yn eu plith, gan eu galw'n 'ffactorau llwyddiant'. Y canlyniad yw model o sut y gellid gwella ymgyrchoedd bwyta'n iach, yn ôl Aschemann-Witzel oedd yn siarad mewn podlediad am yr ymchwil a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor Gwybodaeth am Fwyd Ewropeaidd (EUFIC). Ymwybyddiaeth o ffasiynau Dywedodd mai ymwybyddiaeth o ffasiynau oedd un ffactor a gwneud defnydd o'r ffasiynau hyn wrth ddylunio ymgyrchoedd bwyta'n iach. Ychwanegodd: "Argymhelliad arall fyddai cael apêl emosiynol cryfach. Mae ymgyrchoedd fel hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i gysylltu gyda gwerthoedd cyffredin ac wrth gwrs un argymhelliad oedd y dylai gwybodaeth fod yn syml, yn glir ac yn gyraeddadwy a dylid hefyd bwysleisio'r manteision tymor byr. "Rydym hefyd yn argymell y dylid defnyddio partneriaethau cyhoeddus-preifat llawer mwy. Gellid rhannu'r wybodaeth wedyn ac efallai y byddai hi'n haws defnyddio'r ffactorau llwyddiant hyn." Gan fod yr ymchwil yn seiliedig ar astudiaethau achos, esboniodd Aschemann-Witzel nad oedd asesiad ystadegol ar gael ac felly nad oedd unrhyw warant. Hefyd mae'r rhwystrau allai godi'n cynnwys diffyg cyllido, amheuaeth ynghylch dulliau tebyg i farchnata a strwythurau sefydliadol sy'n ei gwneud hi'n anodd i ymateb yn gyflym i dueddiadau. Fodd bynnag, dywedodd: "Mewn ffordd gall ein model fod fel rhestr wirio wrth ddylunio ymgyrch bwya'n iach." Mae mynd i'r afael â deietau afiach wedi dod yn her iechyd y cyhoedd gan i ystadegau gordewdra yn y rhan fwyaf o'r Aelod Wladwriaethau bron ddyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn ôl adroddiad y llynedd gan y Comisiwn Ewropeaidd a'r OECD. Bu EATWELL hefyd yn ymchwilio i ymyriadau polisi cenedlaethol sydd wedi cael eu defnyddio i annog gweithgaredd corfforol a bwyta'n iach ar draws yr UE. Mae'n anelu at adnabod y bylchau, llwyddiant a methiant yr ymgyrchoedd hyn i ddatblygu canllawiau arfer gorau ar gyfer y dyfodol. |
No current events.