| Cynllun bwytai i fynd i'r afael â gordewdra gyda dognau llai |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:32 |
|
Efallai y bydd y cyfuniad o nygets cyw iâr a sglodion sydd mor boblogaidd ymysg plant yn atgof pell os bydd menter gan fwytai yn Iwerddon, wedi'i anelu at fynd i'r afael â gordewdra plant, yn llwyddo. Mae miloedd o fwytai yn Iwerddon am gychwyn cynnig dognau plant o'u bwydlenni i oedolion ochr yn ochr â'u bwydlenni plant fel rhan o ymgyrch ar y cyd a gyhoeddwyd ddoe gan y Sefydliad Maethiad a Iechyd a Chymdeithas Bwytai Iwerddon. Mae'r cynllun "Kids Size Me" sy'n cael ei dreiglo allan gan 6,000 aelod y grŵp yn anelu at ddarparu opsiynau iachach ar gyfer plant. Bydd bwytai sy'n cymryd rhan yn cynnig opsiynau bwyd mwy iach i blant drwy ddarparu dognau llai o brydau bwyd oedolion fel dewis i'r bwydlenni plant safonol. Byddan nhw'n dangos y symbol "Kids Size Me" newydd. Dywedodd y dietegydd a rheolwr y sefydliad Dr Muireann Cullen fod gan Iwerddon un o'r cyfraddau uchaf o ordewdra mewn plant yn y byd a bod un o bob pedwar plentyn yn Iwerddon dros bwysau neu'n ordew. Dywedodd ei bod hi'n "hanfodol i blant gael mynediad at ddewisiadau bwyd mwy iach yn y dognau priodol a byd hyn yn cael ei hyrwyddo'n weithredol gan fwytai." Canfu ymchwil gafodd ei gomisiynu gan y sefydliad fod galw enfawr am ddognau addas i blant o brydau oedolion, gyda 98 y cant o rieni eisiau'r opsiwn o archebu dognau llai oddi ar fwydlenni oedolion ar gyfer eu plant. Canfu er bod 80 y cant o fwytai'n caniatáu i giniawyr wneud hyn, nid oedd bron i ddau draean ohonynt yn hysbysebu'r ffaith. Canfu'r arolwg fod 78 y cant o blant yn dewis eu pryd bwyd eu hunain gyda 53 y cant yn archebu oddi ar y fwydlen i oedolion. "Mae hi'n amlwg fod y galw yno a'i bod hi'n bryd i fwytai ymateb i'r galw hwnnw," meddai Mr Fallon, un o berchnogion Fallon Byrne ar Exchequer Street, Dulyn. "Mae'n fater o ffordd o feddwl ac o newid agweddau." Dywedodd y byddai ei fwyty'n newid ei fwydlenni i adlewyrchu'r ffaith ei fod yn rhan o'r ymgyrch newydd. Nid oedd yn credu y byddai bwytai'n cael gwared ar eu bwydlenni plant yn llwyr ond y byddent yn defnyddio'r opsiynau dogn newydd fel "ychwanegiad i'r hyn sy'n bodoli'n barod, fydd yn cychwyn proses o gael pobl i feddwl am yr opsiynau mwy iach." Pwysleisiodd er na fyddai'r ymgyrch yn costio arian i fwytai, y byddai'n dal yn cynnig gwell gwerth am arian i rieni. |
No current events.