Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cuddio llysiau mewn bwyd yn effeithiol wrth fynd i'r afael â gordewdra mewn plant
Cuddio llysiau mewn bwyd yn effeithiol wrth fynd i'r afael â gordewdra mewn plant PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
SUNDAY, 28 AUGUST 2011 16:34

Mae astudiaeth newydd yn awgrymu y dylai rhieni fod yn greadigol a thwyllo ychydig er lles iechyd eu plant gan guddio llysiau yn eu bwyd.

Llwyddodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania, mewn camp o dwyll coginiol gyda'r bwriadau gorau, i gael plant cyn-ysgol i fwyta bron dwywaith gymaint o lysiau ac 11 y cant yn llai o galorïau mewn diwrnod ar ôl sleifio llysiau wedi'u stwnsho yn eu hoff fwydydd.

Canfu'r astudiaeth, a gyhoeddwyd ar-lein ar Gorffennaf 25 yn yr American Journal of Clinical Nutrition, fod plant yn bwyta'r un pwysau o fwyd, er gwaethaf ychwanegu brocoli, blodfresych, courgettes, tomatos a sgwosh mewn bwydydd cyfarwydd fel bara, pasta, saws tomato a chaserol cyw iâr.

Roedd cynyddu'r gyfradd o lysiau wedi ychwanegu at werth maethol y prydau a llwyddodd y cynllun hefyd i leihau'r calorïau mewn seigiau rhwng 15 a 25 y cant.

Yn yr arbrawf cafodd 39 o blant rhwng 3 a 6 oed brydau gyda llysiau ychwanegol ar dri diwrnod gwahanol.

O gymharu â phrydau arferol, roedd y cymeriant llysiau bron wedi dyblu a'r cymeriant calorïau wedi gostwng 11 y cant.

Bu cyd-awdur yr astudiaeth, Barbara Rolls, yn amddiffyn yr hyn y gallai rhai pobl ei alw'n arfer twyllodrus, gan ddweud fod y diben yn cyfiawnhau'r dulliau.

"Gyda phlant, mae rhai pobl yn dadlau fod cuddio llysiau mewn bwydydd yn twyllo, a bod gwneud hynny'n awgrymu nad yw llysiau cyfan yn dderbyniol," meddai. "Ond dydw i ddim yn cytuno. Mae rhieni'n addasu ryseitiau drwy'r amser. Er enghraifft, mae'n gwbl dderbyniol bod saws afal yn gallu cael ei ddefnyddio yn lle olew mewn cytew cacenni."

Mae'n ystryw sy'n cael ei defnyddio gan brif wneuthurwyr bwyd hefyd. Er enghraifft, creodd y cwmni bwyd mawr Kraft benawdau pan gyflwynodd Macaroni & Cheese Dinner Veggie Pasta ar draws yr Unol Daleithiau wedi'i wneud gyda blodfresych wedi'u malurio a'u sychrewi. Mae'r powdwr yn disodli peth o'r blawd a ddefnyddir i wneud pasta.

Mae'r strategaeth hyd yn oed wedi arwain at gyhoeddi llyfr, The Sneaky Chef: Simple Strategies for Hiding Healthy Foods in Kids' Favorite Meals, gan Missy Chase Lapine, sy'n cynnwys 75 rysáit sy'n cuddio ffrwythau a llysiau yn gyfrwys mewn prydau bwyd clasurol i blant, gyda llys mewn cacennau bach, ac wyth o lysiau mewn sbageti a pheli cig.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.