Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > McDonald’s yn dechrau cyfri'r calorïau
McDonald’s yn dechrau cyfri'r calorïau PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
SATURDAY, 24 SEPTEMBER 2011 10:20

Mae McDonald's wedi dechrau rhoi manylion calorïau ar ei fwydlenni ym mhob un o'i 1,200 o fwytai yn y DU. Bydd pobl yn awr yn gallu gweld yn syth sawl calori sydd yn eu byrgyr, eu salad, eu Pryd Hapus neu eu hysgytlaeth.

Mae'r newidiadau'n adlewyrchu ymrwymiad McDonald's i'r addewid labelu calorïau sy'n ffurfio rhan o'r Fargen Cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus. Mae'r Fargen Cyfrifoldeb yn ddull newydd o fynd i'r afael â phryderon iechyd cyhoeddus. Yn hytrach na chlymu'r diwydiant bwyd a diod mewn biwrocratiaeth, mae Llywodraeth San Steffan yn anelu at weithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant a gydag elusennau i ddarparu canlyniadau cyflymach a gwell.

Gyda McDonald's, mae cwmnïau eraill sydd eisoes wedi ymuno â'r cynllun yn cynnwys KFC, Pizza Hut, Pret a Manger a JD Wetherspoon. Rhyngddyn nhw maen nhw'n anelu at ddod â labelu calorïau i dros 5,000 o fannau gwerthu bwyd ar y stryd fawr erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae ymchwil yn dangos fod labelu calorïau'n gwneud pobl yn fwy ymwybodol o gynnwys egni eu bwydydd a'i fod yn dylanwadu ar ddewis pobl. Felly gyda McDonald's yn gweini tair miliwn o brydau'r dydd mewn 1,200 o fwytai, gallai'r labelu newydd gael effaith sylweddol ar y dewisiadau mae pobl yn ei wneud wrth fwyta allan.

Mae Adran Iechyd San Steffan hefyd wedi cyhoeddi fod Greggs, Starbucks a Burger King wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r addewid labelu calorïau Allan o'r Cartref, a byddan nhw'n dechrau labelu calorïau yn eu bwytai y flwyddyn nesaf.

Meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Andrew Lansley: "Bellach mae un o bob chwe phryd bwyd yn cael ei fwyta y tu allan i'r cartref ac yn aml does ganddon ni ddim syniad sawl calori rydyn ni'n eu bwyta yn y prydau hynny. Dyna pam mae hyn yn gymaint o gamp ar ran y Fargen Cyfrifoldeb. Bydd yn helpu pobl i weld y calorïau cudd yn eu hoff fwydydd ac i gadw llygaid ar eu pwysau."

Meddai Jill McDonald, Prif Swyddog Gweithredol a Llywydd McDonald's UK: "Ym mis Mawrth fe gyhoeddon ni ein bwriad i ymestyn y gwaith o gyfathrebu gwybodaeth faethol i'n cwsmeriaid i gynnwys arddangos calorïau ar ein byrddau bwydlenni ar draws y DU. Mae'r symudiad hwn, fel rhan o'r Fargen Cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus, yn cefnogi'r egwyddorion y credwn sy'n bwysig: rhoi gwybodaeth glir i'n cwsmeriaid i'w helpu i wneud penderfyniadau sy'n iawn iddyn nhw ac i ddarparu dewis ar ein bwydlen."

Meddai Brian Waring, Is Lywydd Marchnata a Chategori, Starbucks UK ac Iwerddon: "Rydym yn ymroddedig i fod mor dryloyw â phosibl wrth roi gwybodaeth faethol i'n cwsmeriaid ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sy'n ddefnyddiol ac yn hawdd ei defnyddio. Wrth i ni dreialu hyn yn ddiweddar roedd cwsmeriaid yn cefnogi'r symudiad gan ddweud wrthym mai dyma'r peth iawn i wneud."

Meddai Susan Jebb, Cadeirydd Rhwydwaith y Fargen Cyfrifoldeb Bwyd:
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n stryd fawr. Bydd McDonald's, un o'n cadwyni bwytai mwyaf, bellach yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i gwsmeriaid i wneud dewis gwybodus am yr hyn y maen nhw'n ei fwyta. Rwy'n gobeithio y bydd yr enghraifft hon yn annog bwytai eraill i gyflwyno labelu calorïau a gwneud i bobl gwestiynu beth sydd gan y rhai heb labeli calorïau i'w guddio."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.