| Sportacus yn ddelfryd ymddwyn iach i blant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| SATURDAY, 24 SEPTEMBER 2011 10:20 |
|
Mae ymchwil newydd wedi dangos mai Sportacus, o Lazy Town, yw cymeriad teledu plant iachaf ar deledu'r DU. Er bod llawer o gymeriadau eraill, yn cynnwys Tom a Jerry a Scooby Doo, hefyd yn actif iawn, Sportacus ddaeth allan ar y brig ac ef sy'n gosod yr esiampl orau i blant. Bu PCP Research Consultants yn dadansoddi'r 20 rhaglen a chymeriadau plant mwyaf poblogaidd sy'n cael eu dangos ar sianeli teledu'r DU yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2010. Cafodd pob cymeriad ei fesur ar ei lefelau gweithgaredd a rhoddwyd marciau am ymddygiad da fel cerdded ar deithiau byr a chwarae campau. Daw'r newyddion wrth i Newid Am Oes bartneru gyda Sportacus i ysbrydoli plant ar draws y DU i roi'r gorau i fwyta bwyd sothach a bwyta mwy o 'Gandi Chwaraeon'. Mae Lazy Time wedi partneru gyda Newid Am Oes i annog plant ifanc rhwng dwy a phump oed i fod yn fwy actif, i fwyta bwyd iachach ac i anghofio eu harferion Lazy Town eu hunain. Gall bwyta'n iach a bod yn actif helpu i rwystro plant rhag datblygu clefydau difrifol yn ddiweddarach yn eu bywydau ac mae canllawiau gweithgaredd corfforol newydd yn dangos y dylai plant fod yn gorfforol actif, unwaith y maen nhw'n gallu cerdded, am o leiaf 180 munud y dydd. I lansio'r bartneriaeth, bydd 3600 o Ganolfannau Plant Cychwyn Cadarn yn derbyn pecynnau gweithgaredd newydd Newid am Oes sy'n defnyddio holl sêr Lazy Town. Bydd y pecynnau'n cynnwys syniadau llawn hwyl ar gyfer gweithgareddau grŵp ac i rieni yn y cartref, megis syniadau am ryseitiau iach a siart wal gyda sticeri. Bydd hyn yn helpu'r plant i olrhain eu cynnydd wrth iddyn nhw ddod mor actif ac iach â Sportacus. Meddai'r Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Anne Milton: "Mae bwyta'n iach a bod yn actif yn hanfodol, yn enwedig yn gynnar mewn bywyd. Mae Sportacus yn ddelfryd ymddwyn gwych i blant ac yn union beth sydd ei angen arnom i gael plant ifanc a'i rhieni i fod yn iach ac yn actif." Meddau Magnus Scheving, creawdwr a seren Lazy Town: "Rydw i wrth fy modd i gael gweithio gyda Newid Am Oes i dargedu plant rhwng dwy a phump oed. Rydw i'n credu fod y glasbrint i fod yn oedolyn iach a ffit yn cael ei osod yr oedran yma a dyma'r rheswm pam mae ymgyrchoedd fel hyn mor bwysig. Mae'n galonogol gweld y Llywodraeth yn estyn allan at blant dan bump oed lle gallan nhw wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol." |
No current events.