| Cwmnïau diodydd meddal yn targedu plant gyda 'ffeithiau' camarweiniol |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| SATURDAY, 24 SEPTEMBER 2011 10:22 |
|
Mae adroddiad newydd gan yr Ymgyrch Bwyd Plant yn amlygu sut mae gwneuthurwyr diodydd meddal yn defnyddio marchnata camarweiniol i dargedu plant a'u rhieni. Mae enghreifftiau sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad yn cynnwys gwefan Britvic sy'n awgrymu bod eu cynnyrch yn well na dŵr i hydradu plant, ac ymgyrch farchnata gan Vimto oedd yn pwysleisio'r mafon sydd yn y ddiod, er gwaetha'r ffaith mai dim ond 0.1 y cant o'r cynhwysion yw sudd mafon. Mae'r ymchwil hefyd yn amlygu sut mae gwneuthurwyr Ribena, er eu bod yn hysbysebu ei darddiad a'i werth maethol, yn gorfod ychwanegu 90 y cant o'i gynnwys fitamin C yn artiffisial gan ei fod yn cynnwys cyn lleied o sudd ffrwythau. Meddai Clare Panjwani, o Ymgyrch Bwyd Plant, awdur ac ymchwilydd yr adroddiad: "Dangosodd ein harolwg peth marchnata cwbl gamarweiniol yn cael ei ddefnyddio'n ddigywilydd i yrru gwerthiant ac i gynyddu cymeriant diodydd meddal gan blant, sy'n cyfrannu at bydredd dannedd a chyfradd uchel gordewdra plant yn y DU." Aeth ymlaen: "Mae angen gwell rheoleiddio arnom ni i amddiffyn plant rhag marchnata diodydd meddal a bwyd sothach arall, a gwell labelu bwyd er mwyn i rieni a phlant allu dweud yn haws beth sydd yn y cynnyrch y maen nhw'n ei brynu. Dŵr yw'r ddiod iachaf o bell ffordd - a'r mwyaf cynaliadwy - i dorri syched plant, ond mae angen iddo fod ar gael mewn mannau cyhoeddus fel parciau er mwyn iddo fod yn hawdd cael gafael arno bob amser." Daw'r adroddiad hwn ar ôl i'r diwydiant diodydd meddal adrodd y tyfiant mwyaf mewn saith mlynedd yn 2010, gyda chymeriant yn y DU yn cyrraedd 14.6bn litr. Mae hyn yn gyfystyr â 234 litr ar gyfer pob plentyn ac oedolyn yn y wlad - sy'n 642ml - bron 2 gan 330ml safonol, a dros beint - i bob person bob dydd. |
No current events.