| Ymchwilio i system rheoli pwysau naturiol y corff |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| SATURDAY, 24 SEPTEMBER 2011 10:23 |
|
Mae cymaint ag 17 y cant o fechgyn a 15 y cant o ferched rhwng dwy a 18 oed yn ordew yn y DU, gan eu rhoi mewn peryglo o broblemau iechyd difrifol, tymor hir. Bellach mae tîm o ymchwilwyr yn Aberdeen yn ymchwilio i ddietau arbennig allai helpu pobl ifanc i gadw'r pwysau i lawr, diolch i grant gan yr elusen plant Action Medical Research. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod cylched yn yr ymennydd, sy'n gyfrifol am reoli pwysau'n naturiol, yn ddiffygiol mewn achosion o ordewdra. Mae'r ymchwilwyr yn ceisio canfod a fyddai dietau arbennig yn cywiro'r diffyg hwn ac yn helpu plant i gadw at bwysau iach. Mae gordewdra'n golygu fod plant mewn perygl o ddioddef problemau iechyd megis clefyd y galon, diabetes, arthritis a rhai mathau o ganser. Mae plant gordew'n tueddu i dyfu i fod yn oedolion dros eu pwysau, lle gall problemau parhaus gyda phwysau gyfyngu ar weithgaredd, niweidio iechyd a lleihau disgwyliad oes. Mae plant gordew'n fwy tebygol o ddioddef yn sgil bwlian, gwahaniaethu, hunan-barch isel a delwedd corff gwael. Gall straen seicolegol fel hyn effeithio ar gynnydd plant yn yr ysgol, niweidio eu cyfeillgarwch a hyd yn oed achosi iselder. Meddai'r prif ymchwilydd, yr Athro John Speakman, o Brifysgol Aberdeen: "Mae angen braster corff arnom ni, ond mae'n achosi problemau iechyd os yw lefelau'n mynd yn rhy uchel neu'n rhy isel. Mae cylched reoli o gelloedd nerfol yn yr ymennydd - y cylched cydbwyso egni - yn chwarae rhan allweddol wrth reoli ein pwysau. Os byddwn yn mynd dros ein pwysau, mae'r cylched yn canfod braster corff gormodol ac yn anfon signalau yn ein hannog i fwyta llai o fwyd a defnyddio mwy o egni, er mwyn i ni golli pwysau. Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu geni gyda chylched iach, ond gall fynd yn ddiffygiol os yw eu ffordd o fyw'n afiach. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod y cylched yn ddiffygiol mewn pobl sy'n ordew," meddai. Mae'r ymchwilwyr, sy'n astudio gordewdra mewn model labordy, eisoes wedi canfod fod celloedd y cylched cydbwysedd egni yn cael eu hatffurfio'n barhaus. Mae'n ymddangos fod bwyta diet uchel mewn braster yn atal y broses hon, gan achosi cylched ddiffygiol. Mae'r ymchwilwyr yn awr eisiau defnyddio eu model labordy i astudio nifer o wahanol fathau o ddiet, i weld a oes unrhyw faetholion penodol sy'n gallu helpu i drwsio cylched cydbwysedd egni ddiffygiol. Mae'r dietau'n cynnwys gwahanol ganrannau o faetholion allweddol megis protein, braster a charbohydradau. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall dilyn diet yn yr hir dymor atffurfio'r gylched a thrwsio'r diffygion. Mae'r Athro Speakman yn arbenigwr mewn gordewdra a heneiddio ac yn un o brif ymchwilwyr y byd ar faetheg a chydbwysedd egni mewn anifeiliaid a phobl. Mae ei gydweithiwr, Dr David McNay, yn ymchwilydd amlwg ym maes y gylched cydbwysedd egni a'i chelloedd nerfol. Meddai'r Dr Alexandra Dedman, Uwch Reolwr Gwerthuso Ymchwil gydag Action Medical Research: "Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio defnyddio model labordy o ordewdra sydd wedi ennill ei blwyf i astudio a all dietau penodol helpu i drwsio cylched cydbwysedd egni plentyn. Yn ddamcaniaethol, gallai'r maethiad cywir helpu cylched cydbwysedd egni'r plentyn i weithio mewn cytgord gyda'u cynllun diet ac ymarfer i golli pwysau. Gallai hyn olygu na fydd plant bellach yn cael eu hunain mewn cylch diddiwedd o fynd ar ddiet ac ennill pwysau bob yn ail. Yn hytrach, efallai y byddant yn colli pwysau a'i gadw i ffwrdd am byth." Ychwanegodd "Gallai helpu plant i gadw at bwysau iach leihau eu risg o ddatblygu problemau iechyd difrifol, tymor hir a'u rhyddhau o'r stigma sy'n aml yn dod yn sgil tyfu i fyny gyda gordewdra." |
No current events.