| Iechyd ar Agenda'r Cenhedloedd Unedig |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| MONDAY, 24 OCTOBER 2011 14:32 |
|
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi lansio ymosodiad didostur ar glefydau anhrosglwyddadwy (NCDau), gan ddod â dwsinau o benaethiaid Gwladwriaethau at ei gilydd i hyrwyddo'r newidiadau mewn ffordd o fyw sy'n angenrheidiol er mwyn ffrwyno'r llif cynyddol o bla sydd eisoes yn achosi dros 63 y cant o holl farwolaethau'r byd. Dim ond yr ail gyfarfod lefel uchel o'r Cynulliad Cyffredinol i drafod iechyd oedd hwn (roedd y cyntaf yn trafod HIV/AIDS), ac fe aeth i'r afael â phedwar NCD: canser, diabetes, clefyd y galon a strôc, a chlefyd cronig yr ysgyfaint, sy'n cael eu dylanwadu gan ffactorau risg y gellir eu haddasu - sef tybaco, diet, gordewdra, alcohol a diffyg ymarfer corff. Daeth dros 30 o benaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau ac o leiaf 100 o uwch weinidogion ac arbenigwyr at ei gilydd i'r cyfarfod deuddydd. Mabwysiadodd y cyfarfod ddatganiad yn galw am ymgyrch amlochrog gan lywodraethau, diwydiant a chymdeithas sifil i sefydlu erbyn 2013 y cynlluniau sy'n angenrheidiol i ffrwyno'r ffactorau risg tu cefn i'r pedwar grŵp o NCDau – clefydau cardiofasgwlaidd, canserau, clefydau resbiradol cronig a diabetes. Roedd camau'n amrywio o fesurau prisio a threthu i leihau cymeriant tybaco i ffrwyno'r marchnata helaeth i blant, yn enwedig ar y teledu, o fwydydd a diodydd sy'n uchel mewn brasterau dirlawn, asidau traws-frasterog, neu halen. Mae mesurau eraill yn ceisio torri i lawr ar y lefel niweidiol o alcohol sy'n cael ei yfed, hyrwyddo dietau iach cyffredinol a chynyddu gweithgaredd corfforol. "Bydd hyn yn ymdrech enfawr, ond rwy'n argyhoeddedig y gallwn lwyddo," meddai'r Ysgrifennydd Cyffredinol Ban Ki-moon wrth sesiwn agoriadol yr uwchgynhadledd hanesyddol, gan nodi fod dros hanner y bobl sy'n marw o NCDau yn gwneud hynny ar anterth eu bywydau, y mwyafrif helaeth ohonyn nhw mewn gwledydd sy'n datblygu. "Mae ein cydweithio yn fwy nag anghenraid i iechyd y cyhoedd. Mae clefydau anhrosglwyddadwy yn fygythiad i ddatblygu. Mae NCDau'n taro'r tlawd a'r bregus yn arbennig o galed, ac yn eu gyrru'n ddyfnach i mewn i dlodi," meddai, gyda miliynau o deuluoedd yn cael eu gwthio i mewn i dlodi pan fydd aelod yn mynd yn rhy wan i weithio neu pan fydd costau meddyginiaethau a thriniaethau'n llethu cyllideb y teulu. "Mae'r prognosis yn ddifrifol. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, bydd marwolaethau yn sgil NCDau yn cynyddu 17 y cant yn y ddegawd nesaf. Yn Affrica, bydd y nifer hwn yn neidio 24 y cant." Galwodd ar lywodraethau, unigolion, grwpiau dinesig a busnesau i gyd i chwarae eu rhan. "Mae hanes cywilyddus a gofnodwyd yn dda am rhai ymarferwyr busnes a anwybyddodd y wyddoniaeth, weithiau hyd yn oed eu hymchwil eu hunain, gan osod iechyd y cyhoedd mewn perygl er mwyn gwarchod eu helw eu hunain," meddai. "Mae llawer, llawer mwy o fawrion diwydiant a weithredodd yn gyfrifol. Mae hyn yn fwy o reswm byth pam y mae'n rhaid i ni ddal pob un yn atebol, er mwyn i weithredoedd cywilyddus yr ychydig beidio â difwyno enw da'r llawer sy'n gwneud gwaith mor bwysig i feithrin ein cynnydd," ychwanegodd, gan alw ar gorfforaethau sy'n elwa o werthu bwydydd wedi'u prosesu i blant, yn cynnwys gwneuthurwyr, y cyfryngau, cwmnïau marchnata a hysbysebu, i weithredu gydag unplygrwydd llwyr. |
No current events.