Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Prif Weinidog San Steffan yn ystyried treth braster
Prif Weinidog San Steffan yn ystyried treth braster PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 OCTOBER 2011 14:45

Mewn symudiad beiddgar wedi'i anelu at fynd i'r afael â gordewdra, mae Denmarc wedi cyflwyno treth newydd ar fwydydd sy'n cynnwys mwy na 2.3% o fraster dirlawn.

Mae hyn yn golygu fod Denmarc bellach yn talu 25c ychwanegol am becyn o fenyn ac 8c ychwanegol am becyn o greision. Mae llaeth, olew, cig a pizzas hefyd yn ddrutach. Bydd yr arian a ddaw o'r dreth yn cael ei wario yn y frwydr yn erbyn gordewdra. Nid Denmarc yn unig sy'n cymryd mesurau o'r fath. Yn ddiweddar gosododd Hwngari dreth ar unrhyw fwydydd â lefelau afiach o siwgr, halen a charbohydradau. Mae Denmarc, y Swistir ac Awstria eisoes wedi gwahardd traws-frasterau ac mae'r Ffindir a Romania'n ystyried codi trethi braster.

Ym Mhrydain (lle mae 24.5% o bobl yn ordew o'i gymharu â 10% o'r Daniaid), mae David Cameron wedi awgrymu y byddai'r DU yn ystyried codi treth braster. Mewn cyfres o gyfweliadau a ddarlledwyd o gynhadledd y Torïaid ym Manceinion, dywedodd wrth 5 News:

"Rwy'n credu fod hyn yn rhywbeth y dylen ni edrych arno. Y broblem yn y gorffennol pan edrychodd pobl ar ddefnyddio'r system dreth fel hyn oedd yr effaith y gall ei gael ar bobl ar incwm isel.

"Ond â bod yn onest, oes gennym ni broblem gyda'r lefel cynyddol o ordewdra? Oes. Ydyn ni'n cael rhyw fath o rybudd drwy edrych ar America a gweld pa mor ddrwg mae pethau yno erbyn hyn, ynghylch beth all ddigwydd os na wnawn ni rywbeth? Ydyn, a dylai hynny fod yn ddigon i'n dihuno."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.