|
Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) wedi cyhoeddi awgrymiadau cyflym a defnyddiol i greu pecynnau bwyd iach sy'n llawn blas ac amrywiaeth.
Meddai Rachel Cooke, Llefarydd Cymdeithas Ddeieteg Prydain a Dietegydd Ysgol Iach Bryste:
"Mae'r hyn y mae plant yn bwyta yn ifanc yn cael effaith enfawr ar eu harferion bwyta am weddill eu bywyd, felly mae'n hanfodol cael y genhedlaeth iau'n dewis bwyd iach a maethlon.
"Wrth roi cinio pecyn at ei gilydd, mae hi mor hawdd dewis y pethau arferol fel byrbrydau hallt sawrus, creision, barrau siocled, diodydd swigod a'r un hen frechdan ddiflas ddydd ar ôl dydd. Fyddai dim llawer o oedolion yn derbyn bwyta'r un hen bethau bob dydd, felly pam ddylai plant?
"Gall cinio pecyn fod yn gyffrous ac yn llawn amrywiaeth ac opsiynau iach. Mae angen iddyn nhw ddarparu'r egni a'r gynhaliaeth sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu ac i ddatblygu'n iach a'u helpu i ganolbwyntio yn y dosbarth ysgol."
Awgrymiadau BDA ar gyfer Cinio Pecyn Iach:
Pethau syml – bara, grawn a thatws ...
- Ceisiwch gadw detholiad o wahanol fara yn y rhewgell ar gyfer brechdanau. Gall defnyddio gwahanol fath o fara bob dydd wneud brechdanau'n fwy diddorol. Defnyddiwch roliau aml-rawn a hadau, bagelau, baguettes, bara pita, tortillas ... does dim diwedd i'r rhestr! (Mae plant wedi dweud eu bod yn hoffi cig, caws neu bysgod ac ati a bara ar wahân rhag i'r bara fynd yn soeglyd)
- Gallech hefyd chwilota drwy'r oergell am fwydydd dros ben – mae rhai bwydydd fel pizza neu pasta'n blasu cystal yn oer ag yn boeth. Coginiwch reis, pasta neu couscous ychwanegol a'i gymysgu gyda llysiau wedi eu torri'n fach, ambell i gneuen a thiwna neu fecryll fflawiog.
Llenwi'r gwacter – cig, pysgod a'r dewisiadau iddynt...
Ceisiwch gynnwys cig heb fraster, cyw iâr, pysgod, wyau, cnau, ffa neu ffacbys yn eich pecyn cinio:
- Tiwna gyda chiwcymer, pupur gwyrdd, corn melys neu domato
- Hummus braster isel a chiwcymer
- Ŵy a berwr (tyfwch hwn eich hun?)
- Caws colfran a bricyll sych
- Cyw iâr neu dwrci wedi'i goginio, tomatos a letysen
- Menyn cnau daear a banana
- Caws wedi'i gratio a thomato
- Pysgod olewog, megis brechdan samwn neu salad pasta macrell
Cofiwch, os ydych yn rhoi taeniad ar y bara, defnyddiwch un gyda llai o fraster – neu gwnewch heb un o gwbl os ydych chi'n defnyddio llenwad llaith.
Llysiau a Ffrwythau ...
Mae'n bwysig bwyta 5 (neu ragor) o ddognau o ffrwythau a llysiau bob dydd. Bydd digon o ddewis ar eich cyfer amser cinio:
- ffrwythau ffres e.e. afalau, grawnwin, bananas, ffrwythau kiwi (mae plant hefyd wedi dweud eu bod yn hoffi ffrwythau gwahanol bob dydd, ac nid dim ond y dewisiadau traddodiadol e.e. darn o felon/oren wedi'i blicio/kiwi a llwy/pot o fefus. Pam na rowch chi syndod i'ch plentyn drwy roi ffrwyth/llysiau gwahanol bob dydd o'r wythnos?)
- ffrwythau sych, e.e. rhesins, bricyll
- llysiau amrwd wedi'u torri e.e. ffyn moron, tomatos bach neu salad cymysg
- ffrwythau tun mewn sudd naturiol – rhowch nhw mewn cynhwysydd bach neu brynu tuniau bach gyda dolen i'w hagor
Cynnyrch llaeth...
Ceisiwch gynnwys beth cynnyrch llaeth yn eich pecyn cinio – mae'r rhain yn bwysig i gadw eich dannedd yn iach a'ch esgyrn yn gryf (cofiwch wirio'r lefelau siwgr – mae 5g yn cyfateb i ryw un llond llwy de):
- iogwrt braster isel – plaen neu flas ffrwythau
- fromage frais braster isel
- pot bach o bwdin reis neu gwstard
- Ysgytlaethau llaeth/ ffrwythau
Danteithion blasus...
Ffansio rhywbeth melys yn eich pecyn cinio? Does dim byd yn bod ar hyn. Ond ceisiwch wneud dewisiadau iachach pan fedrwch chi:
- bwnen cyrens, sgon neu fara brith,
- popcorn plaen
- bar grawn (cofiwch wirio'r lefelau siwgr)
- bar bach hwyl o siocled
Rhowch ddiod yn y pecyn...
Dewiswch o blith:
- Dŵr plaen (llonydd neu befriog)
- Llaeth plaen (sgim neu led-sgim) neu iogwrt plaen gyda ffrwythau e.e. smŵddis, ffrwythau piwrî gyda iogwrt plaen
- Sudd ffrwythau pur mewn cartonau bach neu mewn potel fach
- Diodydd poeth yn y gaeaf, e.e. cawl
Cadw'n oer...
- Defnyddiwch fag oeri a rhoi pecyn rhew ynddo, neu rewi carton o sudd a'i roi gyda'r bwyd i'w gadw'n oer
- Cadwch yn yr oergell tan y bore os byddwch yn ei baratoi'r noson gynt
- Peidiwch â storio eich cinio wrth ymyl rheiddiadur neu yn yr haul
|