| Datblygu'n iach am fywyd iach |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| MONDAY, 24 OCTOBER 2011 14:49 |
|
Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) wedi croesawu cyhoeddi adroddiad newydd gan y Pwyllgor Gwyddonol Ymgynghorol ar Faetheg (SACN) ar ddylanwad maethiad y fam, y ffetws a'r plentyn ar ddatblygiad clefydau cronig yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ymchwil yn dangos fod gan faethiad y fam effaith uniongyrchol ar ddatblygiad y ffetws. Mae diet gwael y fam yn cynyddu'r tebygrwydd y bydd y babi'n cael ei eni'n ysgafn ac mae'n cynyddu ei risg o glefyd cardiofasgwlaidd a diabetes math 2 yn ddiweddarach yn ei fywyd. Mae'n hanfodol fod baban yn cael ei eni'n pwyso'r pwysau normal. Ar ben arall y raddfa, mae babanod sy'n cael eu geni'n drymach mewn mwy o berygl o ddatblygu canser y fron. Dywed yr SACN fod angen agwedd cwrs bywyd ar gyfer gwella deilliannau iechyd mam a'i baban, gan gychwyn pan fydd y fam yn ifanc, yn ystod ei babandod o ddewis. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd sy'n pennu agweddau ac ymddygiadau yn y dyfodol. Bydd mesurau dietegol eraill fel ychwanegiadau asid ffolig a fitamin D a bwyta llysiau a ffrwythau yn ei helpu i fod mewn gwell iechyd atgenhedlol. Bydd rheoli pwysau yn ystod glasoed ac oedolaeth cynnar yn paratoi menywod yn well i fod yn feichiog. Meddai Llywydd RCOG, Tony Falconer: "Mae'r adroddiad amserol hwn yn cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth y Glymblaid i ffocysu ar iechyd y cyhoedd yn y GIG. "Rydyn ni'n hynod bryderus ynghylch effeithiau niweidiol maethiad gwael a'r cynnydd mewn gordewdra ymysg mamau beichiog. Mae hyn yn arwain at forbidrwydd tymor hir ar gyfer y fam a'r plentyn. Rydym yn ategu'r alwad i sicrhau fod menywod yn cael eu hysbysu o bwysigrwydd diet a maethiad cyn-beichiogi iach o oedran ifanc a'r argymhelliad i gefnogi menywod er mwyn iddyn nhw wneud dewisiadau da o ran ffordd o fyw drwy gydol eu bywydau." |
No current events.