Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Rhowch bethau cyfarwydd iddyn nhw
Rhowch bethau cyfarwydd iddyn nhw PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 OCTOBER 2011 14:50

Mae ymchwil newydd sy'n cael ei harwain gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Bryste wedi canfod fod plant sy'n gyfarwydd â bwyd byrbryd yn disgwyl iddo eu llenwi'n fwy. Mae'r canfyddiad hwn, fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan yn yr American Journal of Clinical Nutrition, yn bwysig gan ei fod yn dangos un ffordd y mae plant yn gor-fwyta bwydydd byrbryd gan gynyddu'r risg o fod dros eu pwysau.

Mae plant mewn perygl o fod yn ordew oherwydd eu bod yn bwyta bwydydd byrbryd uchel mewn egni sy'n aml yn llawn calorïau ac yn gysylltiedig ag ennill pwysau. Roedd yr astudiaeth yn anelu at sefydlu a fyddai bod yn gyfarwydd â bwydydd byrbryd (h.y. eu bwyta'n amlach) yn newid disgwyliadau'r plant ynghylch bod yn llawn.

Meddai Dr Charlotte Hardman, un o'r awduron o Uned Maeth ac Ymddygiad Ysgol Seicoleg Arbrofol y Brifysgol: "Rydyn ni'n gwybod yn dilyn gwaith blaenorol gydag oedolion fod gennym ni gredoau a disgwyliadau ynghylch faint y bydd bwydydd yn ein llenwi, ac y gall y disgwyliadau hyn newid. Ar ben hyn mae 'disgwyliadau llenwi' yn benderfynyddion pwysig wrth ddewis maint prydau bwyd, er enghraifft mae bwydydd y credir eu bod yn llenwi'n fwy yn cael eu dewis mewn dognau llai."

Roedd saithdeg o blant 11 a 12 oed wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth. Fe ddefnyddion nhw dasg arbenigol ar gyfrifiadur er mwyn mesur pa mor llawn yr oedden nhw'n disgwyl bod ar ôl bwyta gwahanol gynnyrch bwyd byrbryd. Fe adroddon nhw hefyd ar ba mor aml yr oedden nhw'n bwyta'r bwydydd byrbryd.

Canfu'r ymchwilwyr fod bod yn gyfarwydd â'r bwyd yn helpu plant i ragweld y lefel o fod yn llawn sy'n gysylltiedig â bwydydd byrbryd sydd yn ei dro'n hysbysu penderfyniadau priodol am faint dognau. Canfu'r tîm hefyd fod plant oedd yn bwyta rhywbeth yn anfynych yn tueddu i ddibynnu ar olwg y bwyd, er enghraifft cyfaint, wrth farnu am fod yn llawn. Byddai disgwyl i'r strategaeth hybu dewis meintiau dogn mwy.

Ychwanegodd Dr Hardman: "Gall cyflwyno amrywiaeth eang o wahanol gynnyrch bwyd byrbryd i blant ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw ragweld pa mor llawn fydden nhw ar ôl eu bwyta. Mae'n hastudiaeth ni'n awgrymu os yw rhieni'n dewis rhoi bwydydd byrbryd i'w plant, efallai y bydden nhw am gadw at yr un bwydydd."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.