| Llysgenhadon Olympaidd mewn ysgolion |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:43 |
|
Daeth dros saith deg o bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed o bob cwr o’r wlad i ail Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Cymru ym mis Tachwedd ar ôl cael eu dewis gan eu hysgolion a’u Hawdurdodau Lleol i fod yn Llysgenhadon Ifanc, gyda’r dasg o ddefnyddio Llundain 2012 i ysbrydoli pobl ifanc newydd yn eu hysgolion a’u cymunedau i ddod yn gaeth i chwaraeon am weddill eu bywydau.
Arweinwyr y dydd oedd tîm o fentoriaid Olympaidd a Pharalympaidd, yn cynnwys y codwr pwysau Olympaidd, Michaela Breeze, blaenwr hoci maes Prydain, Alex Danson ac enillydd medal arian yn y gemau Paralympaidd, Clare Strange, yn ogystal â nifer o Lysgenhadon Ifanc profiadol. Rhannodd y mentoriaid eu profiadau eu hunain o sut beth yw bod yn rhan o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gan annog y Llysgenhadon i feddwl am sut y gallan nhw wneud Llundain 2012 yn berthnasol i’w cymunedau eu hunain. Bu nifer o Lysgenhadon profiadol hefyd yn trafod eu rôl bwysig a’r ffyrdd y maen nhw wedi gwneud argraff ar eu hysgolion a’u cymunedau dros y 12 mis diwethaf. Mae’r grŵp o sêr ifanc wedi derbyn y rolau clodfawr hyn gan eu hysgolion a’u Hawdurdodau Lleol ar ôl iddynt arddangos ymroddiad a gallu eithriadol fel arweinwyr neu wirfoddolwyr ifanc. Yn ganolog i’w cenhadaeth fydd lledu’r gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd o barch, cyfeillgarwch, rhagoriaeth bersonol, dewrder, penderfyniad, ysbrydoliaeth a chydraddoldeb a dangos sut y gall pobl eu mabwysiadu yn eu bywydau. Nod y gynhadledd yw ysbrydoli a symbylu’r Llysgenhadon Ifanc drwy Llundain 2012 a’r gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, er mwyn iddynt allu mynd yn ôl i’r ysgolion ac ysbrydoli a symbylu pobl ifanc eraill. Cyflwynir y fenter Llysgenhadon Ifanc tan Adidas, ei darparu gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a’i chefnogi yng Nghymru gan Chwaraeon Cymru. Meddai Alison Oliver, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid: “Mae’n rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn dangos y dylanwad y gall pobl ifanc ei gael fel delfrydau ymddwyn gyda’u cyfoedion a’r rhai sy’n iau na nhw. “Ers lansio’r fenter yn 2006 mae miloedd o bobl ifanc wedi cael eu cydnabod gan eu hysgolion am eu gallu a’u hymroddiad eithriadol fel arweinwyr neu wirfoddolwyr ifanc. Gyda Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn dod yn nes, mae gan y cynadleddau hyn ran hanfodol i’w chwarae yn annog Llysgenhadon Ifanc i harneisio eu hangerdd dros chwaraeon ac i ddefnyddio eu hegni i wneud Llundain 2012 yn berthnasol i bobl ifanc eraill yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol”. Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister: "Rydym mewn cyfnod unigryw a chyffrous dros ben. Wrth i ni arwain at Lundain 2012, bydd chwaraeon yn y wlad hon yn cael mwy o broffil a chyhoeddusrwydd nag erioed o’r blaen. Mae Gemau’r Gymanwlad yn dod i Glasgow yn 2014 hefyd, felly dydy’r sylw ddim yn dod i ben ar ôl y flwyddyn nesaf. "Fel Llysgenhadon Ifanc, mae gan y bobl ifanc hyn y cyfle i hyrwyddo, datblygu a gwerthu manteision chwaraeon yn eu hysgol a’u cymuned ac maen nhw wedi cael eu dewis fel rhai â’r potensial i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. "Mae gan chwaraeon ran fawr i’w chyfrannu yng Nghymru ac mae angen pobl ifanc arnom i’n symud i fyny i’r lefel nesaf i’n helpu i gwrdd â’n dyheadau o gael pob plentyn yn gaeth i chwaraeon am weddill eu bywydau ac o greu gwlad o bencampwyr.” |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.