Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cyllid newydd ar gyfer byw yn iach yng Nghymru
Cyllid newydd ar gyfer byw yn iach yng Nghymru PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:45

Mae rhaglen grantiau cyntaf  Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl, Llefydd Iach Pobl Iach, wedi cael ei dylunio i gefnogi gweithgareddau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sy’n mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol afiechyd ac yn hybu lles. Bydd prosiectau ym mhob un o’r 51 ardal loteri cymdeithasol lleol sy’n ffurfio’r Loteri Iechyd newydd yn cael eu darparu gan elusennau a grwpiau lleol gyda phrofiad o ddarparu gwasanaethau wedi eu hanelu at fynd i’r afael ag achosion cymdeithasol afiechyd. Cafodd ei ddylunio mewn ymgynghoriad gydag elusennau a grwpiau gyda phrofiad uniongyrchol helaeth o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae wedi cael croeso gan elusennau ac arweinwyr y sector iechyd.

 

Dywedodd y Farwnes Sue Campbell, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, fydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o’r rhaglen: “Mae’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yn credu’n gryf fod gan chwaraeon y gallu i drawsnewid bywyd pob person ifanc. Bydd arian y Loteri Iechyd a ddyfarnwyd i ni gan Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl yn ein helpu i sicrhau y bydd chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn eu datblygiad drwy fywyd yr ysgol, yn ogystal â gwella eu lles corfforol. Rydym yn awyddus i estyn allan at gynifer o bobl ifanc â phosibl gan gynnig cyflwyniad cynnar iddynt i ffordd o fyw actif. Bydd yr arian hwn yn helpu i wireddu hyn, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau posibl o chwaraeon yn yr ysgol.”

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.