| Profion Addysg Gorfforol mewn ysgolion? |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:45 |
|
Yn ôl Dr Andy Franklyn-Miller, cadeirydd cynhadledd Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Prydain a gynhaliwyd yn Llundain yn ddiweddar, mae plant yn cael eu hamddifadu gan fethiant i roi’r un flaenoriaeth i Addysg Gorfforol ag i bynciau eraill y cwricwlwm.
Dywedodd wrth y BBC fod llwyddiant mewn chwaraeon yn y dyfodol yn dibynnu ar gyflwyno cwricwlwm chwaraeon newydd sy’n meithrin yr hyn y mae’n ei alw’n ‘llythrennedd corfforol”. Meddai: “Dewch i ni sicrhau llwyddiant y dyfodol nawr drwy greu cwricwlwm Addysg Gorfforol sy’n cynnwys gwthio, tynnu, cyrcydu, tynhau, cylchdroi, cyflymu a newid cyfeiriad.” Aeth yn ei flaen i ddadlau y dylid cael profion gorfodol ar gyfer y sgiliau hyn yn y cyfnodau allweddol, yn debyg i’r profion ar gyfer pynciau fel mathemateg a Saesneg – ac y byddai’r profion hyn yn adnabod disgyblion sydd angen help ychwanegol a’r rhai allai ddod yn sêr chwaraeon yn y dyfodol. Sgeptigaeth oedd ymateb undebau’r athrawon a’r farwnes Sue Campbell, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid i’w gynnig, gyda’i bwyslais ar gystadleuaeth. Mynegodd pob un ohonynt bryder y gallai profion trwyadl mewn Addysg Gorfforol gael effaith negyddol ar rai plant. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.