| Rhaid i’r llywodraeth wneud mwy i ymladd gordewdra |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:46 |
|
Mae adroddiad yn y cylchgrawn meddygol The Lancet wedi beirniadu cyflwyno codau gwirfoddol yn y diwydiant bwyd fel cam aneffeithiol yn y frwydr yn erbyn gordewdra. Mae’n dadlau y dylai gweinidogion ymyrryd yn uniongyrchol. "Heb atal a rheoli ffactorau risg gordewdra nawr, bydd systemau iechyd yn cael eu llethu hyd at dorbwynt,” dywed y golygyddol. “Ac eto mae ymateb llywodraethau hyd yn hyn yn gwbl annigonol ac yn dibynnu’n helaeth ar hunan reoleiddio gan y diwydiant bwyd a diod, a’r dull pwtio a ddefnyddir.” Mae pedwar papur ymchwil newydd yn y cylchgrawn yn olrhain achosion, goblygiadau a dulliau o fynd i’r afael â’r “pandemig gordewdra byd-eang”. Mae un astudiaeth gan Claire Wang o ysgol iechyd y cyhoedd Prifysgol Columbia yn rhagweld y gallai 48% o ddynion Prydain fod yn ordew erbyn 2030 (26% yw’r ffigur presennol) a gallai gordewdra gynyddu o 26% i 43% ymhlith menywod. Mae papur arall yn rhoi’r bai yn bendant ar y diwydiant bwyd byd-eang ac mae astudiaeth gan Steven Gortmaker o ysgol iechyd y cyhoedd Prifysgol Harvard yn cymharu methiant llywodraethau i gymryd camau pendant ar y mater gyda’r brwydrau yn y gorffennol i fynd i’r afael â’r defnydd o dybaco. Mae Gortmaker yn mynd yn ei flaen i awgrymu wyth polisi allai fynd i’r afael â’r broblem, yn cynnwys gosod trethi ar fwydydd a diodydd afiach a chysgodi plant rhag hysbysebu ar y teledu. Mae’r gyfres o adroddiadau ar gael i chi eu darllen yma: |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.