| Dathlu Gwirfoddoli |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:46 |
|
Wrth i BWE2011 ddirwyn i ben, mae’n amser pwyso a mesur yr holl gyflawniadau gwych gafodd eu gwneud dros y 12 mis diwethaf. Cynhelir Rhoi Cymru ar y Map: Diwrnod i Ddathlu Blwyddyn Gwirfoddoli Ewrop 2011 ddydd Llun, 5 Rhagfyr 2011 yn Neuadd y Ddinas Caerdydd rhwng 12pm a 4.30pm. Bydd y digwyddiad yn arddangos gwaith anhygoel gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol Cymru a bydd siaradwyr arbenigol, yn cynnwys Andy Klom o’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, yn lleisio eu barn ar wirfoddoli yng Nghymru ac yn Ewrop. Bydd amrywiaeth o weithdai lle bydd cynadleddwyr yn gallu clywed am y flwyddyn o safbwynt y gwirfoddolwyr eu hunain. Mae’r rhaglen lawn ar gael fan hyn. Ewch i weld manylion llawn y diwrnod hwn o ddathliadau, ac yna archebwch eich lle drwy glicio fan hyn.
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.