Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Chwaraeon, pa chwaraeon?
Chwaraeon, pa chwaraeon? PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
THURSDAY, 24 NOVEMBER 2011 14:48

Mae arolwg o 1,500 o ieuenctid rhwng 6 a 15 oed ym Mhrydain, a gomisiynwyd gan Tata Steel mewn partneriaeth gyda British Triathlon, wedi canfod fod dwywaith gymaint o bobl ifanc yn treulio eu hamser hamdden o flaen y teledu (79%) nag sy’n chwarae chwaraeon (34%).

 

Roedd bron chwarter ohonynt (22%) erioed wedi rhedeg 400 metr, roedd 15% yn methu nofio ac roedd un o bob deg yn methu reidio beic. Dywedodd 15% ohonynt nad oedden nhw erioed wedi chwarae chwaraeon gyda’u rhieni.

Roedd yr arolwg yn nodi lansio cyfres triathlon ‘Kids of Steel’ Tata, sy’n anelu at amlygu pwysigrwydd darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon. Am ragor o wybodaeth am Kids of Steel, ewch i http://www.tatasteeleurope.com/en/responsibility/sponsorship/triathlon/kids_of_steel/

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.