| Ffordd o fyw iach yn rhwystro canser |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 09:24 |
|
Mae adroddiad newydd helaeth wedi amlygu'r ffordd y gall ffactorau ffordd o fyw ddylanwadu ar amryw o ganserau gwahanol. Yr Athro Parkin o'r Ganolfan Rhwystro Canser yn Sefydliad Meddygaeth Ataliol Wolfson sy'n gyfrifol am yr adroddiad. Canfu fod tua 43% o achosion canser a welwyd yn y DU yn 2010 wedi eu hachosi gan ffactorau ffordd o fyw ac amgylcheddol. Roedd hyn yn cyfateb i tua 134,000 o ganserau wedi eu hachosi gan ymddygiad y gellid ei osgoi megis ysmygu, yfed alcohol a bwyta deiet gwael. Ysmygu tybaco oedd y ffactor risg mwyaf ar gyfer canser, yn gyfrifol am dros 19% o bob achos newydd. Roedd ffactorau eraill yn cynnwys bod dros bwysau (5.5%), bwyta deiet gwael (9.2%) ac yfed gormod o alcohol (4%). "Mae llawer o bobl yn credu fod canser yn fater o ffawd neu 'yn y genynnau' ac mai mater o lwc neu anlwc yw eu bod yn ei gael," meddai'r Athro Max Parkin, epidemiolegydd ym Mhrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain. "Wrth edrych ar yr holl dystiolaeth mae'n amlwg fod tua 40% o bob canser yn cael eu hachosi gan bethau y mae gennym y gallu i'w newid gan fwyaf." Yr astudiaeth newydd hon o'r cyswllt rhwng canser a ffordd o fyw yw un o'r mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd hyd yma. Gallai gwneud y newidiadau hyn yn eu ffordd o fyw hefyd gael effaith gadarnhaol ar glefydau mawr eraill megis clefyd y galon, strôc a diabetes.
|
No current events.