Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Rhieni’n hapus gyda gwell prydau ysgol
Rhieni’n hapus gyda gwell prydau ysgol PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 09:25

Mae ymchwil gan LACA a ParentPay, a gyhoeddwyd ar gychwyn Wythnos Prydau Bwyd Ysgol Cenedlaethol 2011, yn dangos fod 89% o rieni’n fodlon gyda phrydau bwyd ysgol eu plentyn ar ôl chwe blynedd o gyllido i wella safonau.

Cafodd dros 10,000 o rieni eu holi yn yr arolwg barn mwyaf o’i fath. Canfu’r Arolwg hefyd fod mwyafrif y rhieni wedi dod yn fwy ymwybodol o faetheg ac yn awyddus i gadw golwg ar ddeiet eu plant gan awgrymu fod arweiniad iechyd a maetheg y Llywodraeth yn llwyddo. Fodd bynnag, gyda chyllido penodol ar gyfer prydau ysgol dan fygythiad ac Ysgolion Rhydd ac Academïau wedi eu heithrio o’r safonau maeth, gallai’r Llywodraeth wynebu dicter o du rhieni wrth i waith caled arlwywyr ysgol gael ei ddadwneud gan ddiffyg cyllid a newid mewn polisi.

Dangosodd yr arolwg y canlynol hefyd:

  • Mae 96 y cant eisiau i blant ddysgu coginio yn yr ysgol
  • Mae 81 y cant eisiau gallu talu am brydau bwyd ysgol ar-lein
  • Nid yw 15 y cant o’r rhai sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn eu bwyta
  • Dywedodd 80 y cant o rieni eu bod eisiau cael mwy o wybodaeth am beth gafodd eu plant i ginio

Meddai Clint Wilson, Prif Swyddog Gweithredol ParentPay, wrth roi sylw ar y canfyddiadau: “Mae’n ddiddorol gweld faint o rieni sydd eisiau talu ar-lein. Mae 94% o rieni’n cael taliadau ar-lein yn hawdd ond roedden nhw hefyd yn falch eu bod yn helpu i leihau bwlio. Adroddodd rhai arlwywyr fod hyd at hanner yr arian sy’n cael ei roi i ddisgyblion dros y bwrdd brecwast ar gyfer prydau ysgol byth yn dod i’r ysgol. Dywedodd 58% o rieni eu bod yn talu ar-lein er mwyn atal yr arian rhag cael ei wario ar y stryd fawr gan sicrhau fod eu plentyn yn cael pryd ysgol iach”

Dywedodd Lynda Mitchell, Cadeirydd Cenedlaethol LACA: “Mae ennill calonnau, meddyliau a chyrff yn yr ymgyrch i leihau gordewdra ac i adeiladu ffyrdd o fyw iachach yn galw am fod yn unedig. Wrth fynd ati i wella iechyd a ffordd o fyw plant a phobl ifanc, mae pob un ohonom yn yr un frwydr. Mae’n wych felly i weld grym rhieni’n chwarae ei ran yn y cefndir. Mae arlwywyr ysgolion eisiau gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni ac ysgolion eu plant yn ogystal â gweithwyr addysg ac iechyd er mwyn sicrhau ein bod yn gall i allu parhau i gynnig bwyd da a maethlon y gall plant a phobl ifanc elwa yn ei sgil, yn academaidd ac yn gorfforol”.

Gan ychwanegu ei barn ar yr ymchwil ddiweddaraf hon, dywed Sharon Hodgson, Gweinidog Plant a Theuluoedd yr Wrthblaid: “Mae’r adroddiad yn amlygu rhai pethau cadarnhaol, yn cynnwys y ffaith bod rhieni’n fwyfwy ymwybodol bod ansawdd prydau bwyd ysgol yn dda a’u bod yn darparu pryd maethlon cytbwys ar gyfer eu plant. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y rhai sydd â’r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn cymryd mantais o hynny, drwy gael gwared ar ffyrdd o symud y stigma y mae llawer o bobl yn dal i gysylltu â’r hawn hwnnw, a thrwy wneud yn siŵr fod rhieni’n ymwybodol o’r effaith y gall cinio da ei gael ar allu person ifanc i ganolbwyntio ac i ddysgu yn y dosbarth, a’r effaith ar eu hiechyd.”

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.