Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Jowell yn amddiffyn targedau uchelgeisiol ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon
Jowell yn amddiffyn targedau uchelgeisiol ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 09:25

Roedd cais Llundain i gynnal y gemau Olympaidd yn cynnwys rhai addewidion mawr: erbyn 2013 byddai miliwn yn fwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, gyda miliwn arall yn cymryd rhan mewn mwy o weithgaredd corfforol. Cafodd y targedau hyn eu beirniadu o’r dechrau’n deg am eu bod yn canolbwyntio ar bobl oedd eisoes yn actif, ac oherwydd nad oes unrhyw ddinas arall sydd wedi cynnal y chwaraeon wedi llwyddo i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon o ganlyniad i gynnal y Gemau.

Dros ddwy flynedd i mewn i’r cyfnod o bedair blynedd sy’n rhan o Gynllun Chwaraeon Cyflawn y Blaid Lafur, mae nifer y bobl sy’n chwarae camp dair neu fwy o weithiau’r wythnos wedi cynyddu dim ond 109,000 ac mae nifer y bobl sydd ddim yn chwarae unrhyw gamp o gwbl wedi cynyddu.

Dywedodd Tessa Jowell, gweinidog Gemau Olympaidd yr Wrthblaid, wrth yr uwchgynhadledd Legacy Ready a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Diwydiant Ffitrwydd a’r Sefydliad dros Reoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol nad oedd hi’n difaru dim am osod y targedau uchelgeisiol.

"Dydw i ddim yn berson sydd ag alergedd i grŵp o dargedau bach, dethol a phwrpasol. Mae tryloywder yn bwysig ac roedd y ddau darged yma mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn canolbwyntio ar greu ymdeimlad o genhadaeth a phwrpas cenedlaethol," meddai.

Wrth ysgrifennu yn yr Huffington Post y mis diwethaf, meddai: “Mae’r addewid a wnaethon ni yn Singapore i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fabolgampwyr ifanc dan fygythiad,” ac aeth ymlaen i amlygu nifer o ffyrdd y mae’r Llywodraeth Clymblaid wedi gwneud toriadau neu wedi methu â gweithredu ar chwaraeon mewn ysgolion. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod y Llywodraeth wedi diddymu’r Arolwg Chwaraeon Ysgolion blynyddol, gan ei gwneud hi’n amhosibl i fesur effaith y toriadau y maen nhw wedi eu gwneud.

 

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.