| Brecwast yn rhoi hwb? |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| TUESDAY, 13 DECEMBER 2011 09:26 |
|
Mae tîm o Brifysgol Roehampton wedi cymharu effeithiau bwyta neu beidio bwyta brecwast ar draul egni, lefelau gweithgaredd ac arferion deietegol.
Mewn hap-brawf trawsgroesi yn para pythefnos. Rhoddwyd brecwast i’r rhai oedd yn cymryd rhan yn ystod un wythnos a gofynnwyd iddyn nhw ymprydio tan ganol dydd yn ystod yr wythnos arall. Cafodd cymeriant bwyd ei fonitro gan ddefnyddio dyddiaduron bwyd, ac aseswyd traul egni drwy ddefnyddio mesuryddion camau a monitorau cyfradd curiad y galon. Cafodd gweithgaredd corfforol, iechyd a bod yn berson bore neu berson nos eu hasesu gan ddefnyddio holiaduron wedi eu dilysu. Dangosodd canlyniadau pob un oedd yn cymryd rhan nad oedd traul egni dyddiol yn gwahaniaethu rhwng dau gyflwr yr arbrawf. Fodd bynnag, fe ganfu’r tîm rai gwahaniaethau rhwng y rhywiau wrth gymharu rhai oedd yn arfer bwyta brecwast yn rheolaidd â’r rhai oedd yn ei fwyta’n afreolaidd neu ddim o gwbl. Gwelwyd fod gwrywod nad oedd yn bwyta brecwast yn rheolaidd yn treulio swm sylweddol mwy o egni yn ystod y cyflwr brecwast. Ar ben hyn, gwelwyd fod menywod yn bwyta’n sylweddol fwy ac yn ddiweddarach yn y dydd dan y cyflwr dim brecwast. Daeth y tîm i’r casgliad er nad yw’r awgrym fod brecwast yn nodwr ymddygiadol ar gyfer patrymau deiet a gweithgaredd corfforol priodol yn cael ei wrthbrofi gan y canfyddiadau presennol, mae’r data’n awgrymu y gall effaith brecwast amrywio fel ffwythiant o ryw ac arferion bwyta yn y bore, ac felly gall bod mecanweithiau eraill sy’n cysylltu BMI ac ymddygiad bwyta brecwast.
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.