Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Gall deiet iach fod yn rhatach na bwyd sothach yn ôl ymchwil newydd
Gall deiet iach fod yn rhatach na bwyd sothach yn ôl ymchwil newydd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
WEDNESDAY, 25 JANUARY 2012 10:51

Gall deiet iach fod yn rhatach na bwyd sothach yn ôl ymchwil newydd.

Gallai rhieni rhai plant gordew arbed hyd at £6.58 yr wythnos drwy newid eu harferion siopa a dewis deiet mwy iach, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd yn rhifyn diweddaraf y British Journal of General Practice.

Mae’r astudiaeth yn rhifyn mis Ionawr ar thema gordewdra’n dangos nad oes rhaid i fwyta mwy iach fod yn ddrutach, sy’n herio un o’r rhwystrau i newid deiet a ddyfynnir amlaf.

Bu’r tîm ymchwil, dan arweinyddiaeth yr Athro Julian Hamilton-Shield a’r Athro Debbie Sharp o Brifysgol Bryste, yn dadansoddi dyddiaduron bwyd a gadwyd gan deuluoedd plant gordew gan fesur y gost o roi opsiynau bwyd iach yn lle rhai afiach, gan ganfod fod bwyta’n iach yn gallu costio llai na bwyd sothach.

Dangosodd y ffigurau y gallai bwyta’n iach gostio dim mwy na £2.31 ychwanegol yr wythnos, ac mewn rhai achosion, gellid arbed hyd at £6.58 yr wythnos drwy newid siopau.

Mae’r ymchwil yn profi canfyddiad rhieni a rhai gweithwyr iechyd proffesiynol fod bwyta’n iach o anghenraid yn ddrutach. Mae’n dangos ei bod hi’n bosibl newid o ddeiet afiach i un iach a lleihau costau bwyd ar yr un pryd.

Dywedodd yr Athro Julian Hamilton-Shield, o Ysgol Gwyddorau Clinigol Prifysgol Bryste ac Ysbyty Blant Bryste: “Mae cost bwyd yn cael ei dyfynnu’n fynych fel rheswm dros fethu â mynd i’r afael ag ymddygiad bwyta mewn practis clinigol, ac mae’r astudiaeth hon yn dangos mai rhwystr canfyddedig yw hwn yn hytrach nag un gwirioneddol.”

Cafodd dyddiaduron bwyd plant gordew eu dadansoddi i ganfod gwahanol agweddau o gynnwys maethol gan eu trosi wedyn gan ddeietegwyr cymwys yn fwydlenni dyddiol ‘opsiwn iachach’ yn dilyn canllawiau’r ‘plât Bwyta’n dda’. Dangosodd y dyddiaduron eu bod ar gyfartaledd yn bwyta 221 calori'r dydd yn fwy na’r gofynion cyfartalog amcangyfredig (EAR). Daeth y bwydlenni iachach newydd â hyn i lawr i ddim ond saith calori'r dydd yn fwy na’r EAR.

Wrth gymharu cost y ddwy fwydlen o’u prynu mewn archfarchnadoedd rhad, archfarchnadoedd canol y ffordd a siopau stryd fawr lleol, gwelwyd y gallai siopwyr sy’n siopa mewn archfarchnad ganol y ffordd oedd yn bwyta deiet o ansawdd maethol isel newid i fwyta deiet iach gan siopa mewn archfarchnad rad ac arbed arian ar yr un pryd.

Tra’n cydnabod fod ffactorau eraill yn chwarae rhan mewn deiet – dewisiadau blas, yr amser y mae pobl yn gallu’i dreulio’n coginio, sgiliau coginio, ac amgylchiadau teuluol eraill– mae’r canlyniadau’n awgrymu wrth i bwysau gynyddu ar arian teuluoedd, bod yna opsiynau bwyta’n iach ar gael na fydd yn torri’r banc.

Mewn astudiaeth arall, cynhaliodd yr un tîm o Fryste hap-brawf gyda rheolydd a dangosodd y canlyniadau fod potensial i ofal cychwynnol fod mor effeithiol â chlinigau ysbytai wrth reoli gordewdra mewn plant, gan gynnig canlyniadau a lefelau o fodlonrwydd cleifion tebyg.

Trosglwyddodd y prawf glinig ysbyty oedd wedi’i hen sefydlu i feddygfa meddyg teulu. O’i ddefnyddio’n ehangach, gallai’r dull hwn leihau’r baich ar y gwasanaeth iechyd, yn ogystal â gwella mynediad i gefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer teuluoedd.

Ar hyn o bryd prin, os o gwbl, yw mynediad plant gordew i wasanaethau allai eu helpu, gan fod llawer gormod eisoes yn mynd i glinigau’r ysbytai. Byddai clinigau mewn lleoliadau gofal cychwynnol  yn haws mynd atynt i lawer o deuluoedd, a bydden nhw’n lleihau’r pwysau ar glinigau ysbytai megis clinig Gofal Gordewdra Plentyndod (COCO) yn Ysbyty Plant Bryste oedd yn rhan o’r treial.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.