| Mae’n well gan blant ddigonedd o ddewis a lliwiau ar eu platiau |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| WEDNESDAY, 25 JANUARY 2012 10:53 |
|
Ydych chi am i’r plant fwyta’n fwy iach? Yna rhowch liwiau a dewis iddyn nhw, medd astudiaeth newydd o Brifysgol Cornell. Gall rhieni plant sy’n anodd gyda bwyd annog eu plant i fwyta deietau mwy amrywiol yn faethol drwy gyflwyno mwy o liw i’w prydau, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Cornell. Mae’r astudiaeth wedi canfod fod bwyd mwy lliwgar yn apelio’n fwy i blant nag i oedolion. Yn benodol, mae platiau bwyd â saith eitem wahanol a chwe lliw gwahanol yn eithriadol o apelgar i blant, tra bod oedolion yn tueddu i ffafrio llai o liwiau - dim ond tair eitem a thri lliw. “Mae beth sy’n apelio’n weledol i blant yn wahanol iawn i beth sy’n apelio i’w rhieni,” meddai Brian Wansink, athro Marchnata yn Ysgol Economeg a Rheolaeth Cymwysedig Dyson Cornell. “Mae’n astudiaeth yn dangos sut i wneud y newidiadau er mwyn i frocoli a physgodyn edrych yn fwy blasus nag y byddent fel arall i Aled neu Gwen bach.” Mae’r astudiaeth wedi’i gyhoeddi yn rhifyn mis Ionawr Acta Paediatrica (101:1). Bu Wansink a’i gyd-awduron Kevin Kniffin a Mitsuru Shimizu, cymdeithion ymchwil ôl-ddoethuriaeth Cornell, a Francesca Zampollo o Brifysgol Fetropolitan Llundain, yn gweithio gyda 23 o blant cyn-arddegau a 46 o oedolion gan ddangos lluniau maint llawn o 48 cyfuniad gwahanol o fwyd ar blatiau oedd yn amrywio o ran nifer yr eitemau, lleoliad yr entrée a threfn y bwyd. “O gymharu ag oedolion, mae’n well gan blant blatiau gyda mwy o elfennau a lliwiau, ac o gael eu entrees wedi eu gosod o flaen y plât a gyda dyluniadau ffigurol,” meddai Kniffin. “Tra bod llawer o’r ymchwil ar hoffterau bwyd ymysg plant ac oedolion yn canolbwyntio ar elfennau ‘blas, arogl a chemegol’, byddwn ni’n adeiladu ar ganfyddiadau sy’n dangos fod pobl i weld yn cael eu dylanwadu’n sylweddol gan siâp, maint a golwg y bwyd sy’n cael ei gyflwyno iddyn nhw.” Am ragor o wybodaeth am ychwanegu lliw ac amrywiaeth i blatiau plant, ewch i: |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.