Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Gwefan y mis Chwefror 2010
Gwefan y mis Chwefror 2010 PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 26 FEBRUARY 2010 13:54

Rydym yn rhoi gwybod i chi yn rheolaidd am wefannau gwych y credwn y byddwch yn eu hoffi, ond yn hytrach na'ch llethu â gwybodaeth bob mis, rydym yn mynd i ddewis ein hoff wefan a rhoi mis cyfan i chi ei defnyddio fel y mynnwch a'i throsglwyddo i eraill all fod yn ei hoffi hefyd.

Y mis yma felly, ein gwefan y mis yw *bwrlwm drwm*..........

Kidshealth.org

KidsHealth yw'r wefan ar iechyd plant sy'n cael y nifer uchaf o ymweliadau ar y we, ac mae'n hawdd gweld pam.

Mae wedi ei rhannu'n dair gwefan wahanol mewn gwirionedd: un i rieni, un i blant ac un i bobl ifanc yn eu harddegau. Fe gewch wledd o wybodaeth ar bob un ohonynt, y cyfan wedi ei anelu at grwpiau oedran penodol.

Ar wefan y rhieni ceir gwybodaeth ar feichiogrwydd, cyngor ar fod yn rhiant, ryseitiau iach y bydd eich plant yn eu mwynhau, a llawer mwy.

Mae llwyth o bethau diddorol i'w gweld a'u gwneud ar wefan y plant; ffilmiau, gemau a geiriadur o eiriau meddygol i blant.

Yn olaf, mae'r wefan i'r arddegau'n cynnwys yr holl bethau pwysig y mae angen i chi eu gwybod yn eich arddegau. Mae cyngor ar bynciau fel iechyd rhywiol, cyffuriau ac alcohol, ac ar sut i gael swydd.

Rydym yn siŵr y byddwch wrth eich bodd gyda KidsHealth, felly dewch yn ôl mis nesaf i gael manylion gwefan wych arall.

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.