Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Ceidwadwyr yn lansio papur gwyrdd newydd ar iechyd
Ceidwadwyr yn lansio papur gwyrdd newydd ar iechyd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 26 FEBRUARY 2010 14:05

Mae'r Blaid Geidwadol newydd ryddhau ei phapur gwyrdd newydd ar iechyd sy'n anelu, ymysg pethau eraill, at, leihau goryfed mewn pyliau a gwella gwybodaeth ar labeli bwyd.

Cafodd y papur ei lansio gan Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid, Andrew Lansley, ac mae'n amlinellu'r polisïau y gallai'r Ceidwadwyr eu rhoi ar waith pe byddent yn ennill grym yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Un o'r prif bynciau sy'n cael eu trafod yn y papur, 'A Healthier Nation', yw goryfed mewn pyliau. Mae'r Ceidwadwyr eisiau cael rheolau mwy caeth dros alcohol rhad a gosod trethi uwch ar yr hyn a elwir yn 'ddiodydd problem' megis alcopops a chwrw cryf iawn.

Maen nhw hefyd eisiau cael trefnau trwyddedu mwy llym i fynd i'r afael â lleoliadau sy'n broblem yn annog yfed anghyfrifol.

Mae labeli bwyd a diodydd hefyd yn uchel ar yr agenda. Mae'r papur yn trafod cynlluniau i wella cysondeb yr wybodaeth i'r cwsmer, gan roi sylw i Ganllawiau Symiau Beunyddiol (GDA) ac unedau yfed ar labeli alcohol. Bydd tai bwyta, mannau gwerthu bwyd cyflym a chaffes hefyd yn cael eu hannog i wneud gwybodaeth faethol yn fwy clir i gwsmeriaid.

Meddai Lansley am y papur: "Byddwn yn gwneud yn siŵr fod busnesau, ochr yn ochr ag awdurdodau cyhoeddus, yn chwarae eu rhan wrth wella iechyd pobl. Byddwn hefyd yn cefnogi mentrau gan ddiwydiant i hybu gwell iechyd, megis lleihau maint dognau bwyd a lleihau ailffurfio cig."

Wrth ymateb i'r cynigion, dywedodd Jeremy Beadles, prif weithredwr y Gymdeithas Masnachu Gwin a Gwirodydd (WSTA): "Rydym yn croesawu camau i hybu'r cwsmer i wneud dewisiadau gwybodus ac i gymryd cyfrifoldeb dros ei ymddygiad ei hun ac yn croesawu'r cyfle i fusnesau gael rhan mewn ffurfio a gweithredu cytundebau ynghylch marchnata cynnyrch alcohol yn gyfrifol.

"Mae'n gwneud synnwyr i ddarparu gwybodaeth i gwsmeriaid am alcohol mewn ffordd sy'n hawdd ei pherthnasu â diodydd penodol. Yn yr un modd, mae'n glir y byddai angen cytundeb ar draws Ewrop ar gyfer safoni labeli.

"Rydym yn croesawu pwyslais y Papur Gwyrdd ar weithio mewn partneriaeth yn lleol. Yn ein profiad ni mae Partneriaethau Alcohol Cymunedol sy'n dod ag adwerthwyr, yr heddlu ac awdurdodau lleol at ei gilydd, yn cael effaith wirioneddol ar fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol.

"Credwn fod polisïau sydd am fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn fwyaf tebygol o lwyddo os ydyn nhw'n canolbwyntio ar yfwyr sy'n broblem yn hytrach nag ar gynnyrch penodol. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu nad yw trethi a phrisiau uwch am ddiodydd penodol yn newid ymddygiad y rhai sy'n camddefnyddio alcohol."

I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch fan hyn.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.