Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cyhoeddi Adroddiad ar yr Arolwg Maethiad Deiet Cenedlaethol
Cyhoeddi Adroddiad ar yr Arolwg Maethiad Deiet Cenedlaethol PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 26 FEBRUARY 2010 14:10

Mae adroddiad ar flwyddyn gyntaf rhaglen dreigl yr Arolwg Maethiad Deiet Cenedlaethol (NDNS) (Chwefror 2008 i Fawrth 2009) wedi cael ei gyhoeddi ac mae'r canlyniadau'n rhai cymysg. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y bwyd sy'n cael ei fwyta a chymeriant maetholion ar gyfer oedolion rhwng 19 a 64 oed a phlant rhwng 18 mis a 3 oed, 4 a 10 oed ac 11 a 18 oed.

Prif ganfyddiadau'r adroddiad yw:

  • Mae pobl yn bwyta llai o fraster dirlawn, traws fraster a siwgr wedi'i ychwanegu nag yr oeddent 10 mlynedd yn ôl pan gafodd yr arolwg ei gynnal ddiwethaf.
  • Mae cymeriant braster dirlawn mewn oedolion wedi gostwng ychydig i 12.8% o ynni bwyd, ond maen nhw'n dal yn uwch na'r lefel a argymhellir, sef 11%. Ond mae cymeriant traws fraster y boblogaeth, sydd hefyd wedi gostwng ychydig, o fewn y lefelau a argymhellir.
  • Mae pobl yn dal i fwyta gormod o siwgwr wedi'i ychwanegu, 12.5% o gymeriant ynni bwyd ar hyn o bryd o'i gymharu â'r 11% a argymhellir.
  • Mae traean o ddynion a menywod bellach yn bwyta'r '5 y dydd' a argymhellir o ran ffrwythau a llysiau.
  • Nid yw pobl yn bwyta digon o ffibr o hyd, sy'n hanfodol ar gyfer treuliad iach. Mae'r cymeriant ar gyfartaledd yn 14g y dydd i oedolion, sydd cryn dipyn yn is na'r 18g a argymhellir.
  • Mae lefelau bwyta pysgod olewog, sef prif ffynhonnell asidau brasterog omega 3, yn dal i fod o dan yr un dogn yr wythnos sy'n cael ei argymell.
  • Mae cymeriant haearn ymysg menywod a merched yn eu harddegau'n dal yn isel, a gall hyn arwain at ddiffyg haearn ac anaemia. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae cymeriant fitaminau a mwynau yn y boblogaeth wedi gwella ychydig.

Mae'r canlyniadau'n ddigon tebyg i ganlyniadau arolygon NDNS blaenorol gafodd eu cynnal rhwng 1991 a 2001, ond yn bwysig nid oes unrhyw broblemau maethiad newydd arwyddocaol mewn perthynas â'r cyhoedd. Serch hynny, mae rhai meysydd o hyd sydd angen eu gwella, megis lefelau ffibr a faint o bysgod sy'n cael eu bwyta.

Dywedodd Gill Fine, Cyfarwyddwr Dewis Cwsmeriaid ac Iechyd Dietegol gyda'r FSA: 'Mae canlyniadau blwyddyn gyntaf ein rhaglen dreigl NDNS newydd yn rhoi ciplun diddorol i ni o ddeiet y wlad, a bydd yn caniatáu i ni olrhain tueddiadau sy'n ymddangos dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y dystiolaeth o'r arolwg hwn ac arolygon y dyfodol yn ein helpu ni ac adrannau eraill y llywodraeth i ffurfio polisïau i fynd i'r afael â'r materion sydd wedi dod i'r amlwg.

'Mae'n newyddion da bod yr arolwg yn awgrymu bod tua thraean o'r boblogaeth yn bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd ac mae'n galonogol gweld bod y canfyddiadau cychwynnol hynny'n awgrymu lefelau ychydig is o ran cymeriant braster dirlawn a siwgwr a ychwanegir o'i gymharu ag arolygon blaenorol. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod cryn ffordd i fynd cyn i ni fod yn cwrdd â holl argymhellion y Llywodraeth o ran deiet.

'Mae maethiad da yn bwysig i iechyd ac mae deiet gwael yn gyfrifol am ganran uchel o farwolaethau cynamserol. Mae angen i ni'n awr adeiladu ar y dangosyddion o newid cadarnhaol rydym wedi eu gweld yn yr arolwg hwn. Drwy barhau gyda'n rhaglen o waith ymgyrchu ac annog ailfformwleiddio mewn meysydd allweddol megis braster dirlawn, a gobeithio y byddwn yn gweld gwelliannau pellach dros flynyddoedd nesaf y rhaglen.

I weld yr adroddiad llawn, cliciwch fan hyn.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.