Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cymru am fabwysiadu polisïau arloesol ar hawliau’r plentyn
Cymru am fabwysiadu polisïau arloesol ar hawliau’r plentyn PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 23 MARCH 2010 15:31

Mae ymgynghoriad pwysig wedi'i lansio fyddai'n gweld polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol yn cymryd hawliau'r plentyn i ystyriaeth, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews a'r Dirprwy Weinidog Plant, Huw Lewis, ac mae'n nodi cynigion am 'Fesur Hawliau'r Plentyn a'r Person Ifanc (Cymru)'. Byddai hwn yn sicrhau y byddai angen i bolisïau Llywodraeth y Cynulliad gymryd i ystyriaeth hawliau'r plentyn fel y'u nodir yn UNCRC.

Llywodraeth y Cynulliad fydd y llywodraeth gyntaf yn y DU i ymgymryd â chynigion o'r fath.

Cyhoeddodd y cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ym mis Gorffennaf 2009 y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn "edrych ymhellach ar y posibilrwydd o gyflwyno Mesur i fewnblannu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith".

Wrth lansio'r ymgynghoriad, meddai Leighton Andrews: "Byddai'r Mesur yn gosod o fewn cyfraith Cymru ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau fod hawliau'r plentyn a'r person ifanc yn cael y pwysigrwydd amlwg y maent yn eu haeddu yng ngwaith Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'n profi unwaith eto fod Cymru'n arwain y ffordd, yn canfod ffyrdd newydd o gryfhau hawliau'r plentyn a'r person ifanc."

Meddai Huw Lewis: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn dangos ein hymrwymiad clir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yma yng Nghymru.

"Rydym eisiau sicrhau fod gan blant a phobl ifanc yr hawliau y maen nhw'n eu haeddu, gan eu helpu i gael dyfodol hapus a llwyddiannus yma yng Nghymru.

"Rydym yn awyddus i glywed barn pob un, yn cynnwys plant a phobl ifanc. Mae gan blant a phobl ifanc o bob oed yr hawl i ddweud beth maen nhw'n ei feddwl am y materion sy'n effeithio ar eu bywydau, ac i'r farn honno gael ei chymryd i ystyriaeth wrth i benderfyniadau am eu dyfodol gael eu gwneud."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.