Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Dylai'r DU ddilyn Michelle Obama wrth droi tu min ar ordewdra
Dylai'r DU ddilyn Michelle Obama wrth droi tu min ar ordewdra PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 23 MARCH 2010 15:33

Dylai Llywodraeth y DU ddilyn esiampl Michelle Obama a throi tu min ar ordewdra mewn plant medd papur newydd y Guardian.

Yn ddiweddar bu Obama, gwraig Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, yn annerch meiri o bob cwr o'r Unol Daleithiau ar sut yr oedd gordewdra'n dod yn gymaint o broblem nes ei fod yn bygwth economi'r wlad, yn amharu ar addysg plant a sut byddai'n rhoi straen annormal ar y system gofal iechyd.

Ond fe wnaeth Mrs Obama gydnabod nad yw hi bob amser yn hawdd sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n bwyta'n iach.

Meddai: "Does dim llawer ers i mi fod yn ymrafael â swydd lawn amser tra'n cyflawni'r rôl 24 awr y dydd o fod yn fam. Ac roedd digonedd o adegau, ar ôl diwrnod hir yn y gwaith, a'r oergell yn wag a phawb yn llwgu, yr archebais i'r pizza yna achos ei fod yn haws. Neu fe aethom am byrger o'r siop gyrru drwodd am ei bod yn gyflym ac yn rhad.

"A doeddwn i ddim bob amser yn ymwybodol o gyfanswm yr holl galorïau a'r braster yn rhai o'r bwydydd wedi prosesu yr oeddwn yn eu prynu. Fe ddaeth i'r pwynt lle daeth ein paediatregydd i dynnu fy sylw gan ddweud, "Efallai y dylech chi fod yn ystyried gwneud rhai newidiadau."

Y math yma o 'hyrwyddwr gwrth gordewdra' sydd ar goll yn y DU, yn nhyb gohebydd iechyd y Guardian, Denis Campbell. Dywed ymhellach fod polisïau a phrosiectau presennol yn syrthio'n fyr o beth y dylen nhw fod yn ei gyflawni.

"Er ein bod yn croesawu'r holl gynlluniau hyn, nid ydynt gyda'i gilydd yn ffurfio ymateb credadwy fydd yn troi'r llanw'n ôl", ysgrifenna.

Yna mae Campbell yn amlinellu'n union sut y byddai'n mynd ati i ymladd y frwydr yn erbyn gordewdra.

"Yn lle dibynnu ar well labeli bwyd, dylai gweinidogion fod yn ystyried sut, ac nid os, y byddant yn gorfodi cynhyrchwyr bwyd i gael gwared ar y braster, halen a siwgr gormodol sydd mor niweidiol i iechyd."

Mae hefyd yn credu y dylai bod awr o ymarfer corff y dydd ar gyfer disgyblion ysgol (a 30 munud i weithwyr), newidiadau i drafnidiaeth ac adeiladau i gael gwared ar yr orddibyniaeth ar gerbydau a chynnydd mewn ymwelwyr iechyd mewn ysgolion.

Ym mis Hydref 2007, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Alan Johnson, am ordewdra, ei fod yn "argyfwng potensial ar raddfa newid yn yr hinsawdd", ac ers hynny fe ddatgelwyd pe byddai cyfyngiadau'r GIG yn cael eu dileu y byddai dros filiwn o bobl yn gymwys i gael band gastrig wedi'i osod.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.