Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Ailhyfforddi patrymau bwyta yn allweddol i fynd i'r afael â gordewdra yn ôl astudiaeth
Ailhyfforddi patrymau bwyta yn allweddol i fynd i'r afael â gordewdra yn ôl astudiaeth PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 23 MARCH 2010 15:36

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai dysgu plant i fwyta mewn ffordd wahanol, yn hytrach na dim ond bwyta bwydydd iach, ddod yn ffordd bwysig o frwydro gordewdra.

Defnyddiodd arbenigwyr o Brifysgol Bryste, ynghyd ag eraill o bob cwr o'r byd, ddyfais electronig arbennig i fonitro sut y mae plant yn bwyta eu bwyd.

Clorian bwyso gludadwy yw'r Mandometer sy'n cysylltu â chyfrifiadur a gall gyfrif faint o fwyd sy'n cael ei symud oddi ar y plât a pha mor gyflym mae'n digwydd. Mae'n rhoi adborth i'r defnyddiwr wedyn, gan gynnig cyngor ynghylch newid dulliau bwyta. Er enghraifft, os yw'n adnabod bod defnyddiwr yn bwyta'n rhy gyflym bydd yn dweud wrtho/i am arafu.

Ar ôl 12 mis yn yr astudiaeth, ac o'u cymharu gyda grŵp rheoli, roedd gan y rhai fu'n defnyddio'r Mandometer BMI iachach.

Cred yr arbenigwyr bod modd defnyddio'r ddyfais "i wella deiet drwy annog bwyta bwydydd startsh, ffrwythau a llysiau, dognau cymedrol o laeth, cynnyrch llaeth, pysgod a chig heb fraster a dognau bach o fwydydd uchel mewn braster a siwgr."

I ddarllen yr astudiaeth yn fanylach, ewch i wefan y British Medical Journal yma.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.