| Dywed astudiaeth fod gwersi AG ychwanegol yn gwneud plant yn fwy iach |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 23 MARCH 2010 15:42 |
|
Dywedwyd yn aml y dylai plant fod yn gwneud mwy o AG yn yr ysgol ac yn awr mae ymchwil wedi cefnogi'r dadleuon hyn. Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan arbenigwyr yn y Swistir a'i chyhoeddi yn y British Medical Journal, a bu'n cymharu plant oedd yn derbyn addysg gorfforol am 45 munud yr wythnos, sef y gofyniad cyfreithiol, gydag eraill oedd yn cael pum gwers yr wythnos yn ogystal â chyfnodau byr o weithgaredd dwys adref hefyd. Dros y naw mis o'r astudiaeth, gwelwyd fod plant oedd yn cael y gwersi AG ychwanegol yn fwy ffit, gan wella mewn dros hanner y prif ffactorau yr oedd yr ymchwil yn edrych arnynt, ac yn llai tebygol o fagu tewdra na'r rhai oedd ond yn cael nifer safonol y gwersi. Roedd ffitrwydd y plant yn cael ei fesur trwy gyfrwng prawf oed yn gweld pa mor hir y gallen nhw redeg yn gyflym a gwelwyd bod y rhai oedd yn gwneud mwy o ymarfer corff yn gallu gwibio am 20 eiliad yn hirach ar gyfartaledd. Bu meddygon hefyd yn mesur faint o fraster oedd dan groen y plant. Roedd plant oedd yn gwneud y cyfnod safonol o AG yn magu cyfartaledd o ddau filimetr o fraster dros y naw mis, gyda'r rhai oedd yn gwneud AG ychwanegol yn magu cyfartaledd o hanner milimetr yn unig. Er gwaethaf hyn, canfu ymchwilwyr hefyd er bod y plant yn cael gwersi AG ychwanegol yn yr ysgol doedd hyn ddim yn golygu eu bod yn cael unrhyw ymarfer corff ychwanegol yn gyffredinol. Y rheswm am hyn oedd bod gwneud mwy yn yr ysgol yn golygu eu bod yn gwneud llai y tu allan i'r ysgol. Fodd bynnag, barnwyd fod yr ymarfer yn yr ysgol yn fwy egnïol, gan gyfrif am y gwelliant yn eu lefelau ffitrwydd. Nodwyd hefyd nad oedd ansawdd bywyd y plant chwaith wedi ei wella dros gyfnod yr ymchwil. Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gyda 500 o blant mewn dau grŵp oedran, 7 ac 11 oed. |
No current events.